ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
L
Lawrasia / Laurasia
Hen gyfandir a oedd yn cynnwys cyfandiroedd Gogledd America, Ewrop ac Asia yr oes bresennol.
Lawrensia / Laurentia
Hen gyfandir y cyfnodau Cambriaidd ac Ordofigaidd a oedd yn cynnwys Gogledd America a’r Ynys Las (Grønland) yr oes bresennol. Ymhen amser, arweiniodd y gwrthdaro rhwng Lawrensia a Baltica at greu Lawrwsia.
Lawrwsia / Laurussia
Gweler Cyfandir yr Hen Dywodfaen Coch.
LL
Llifwaddod / Alluvium
Graean, tywod, silt a chlai a ddyddodir gan afon o fewn ffiniau ei gorlifdir.


