N O

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

N

Namuraidd / Namurian

Un o unedau stratigraffig y Cyfnod Carbonifferaidd, pan gafodd y Grut Gwaelodol ei ddyddodi. Gweler siart amser Carbonifferaidd.

Neogen / Neogene

Enw’r ieuengaf o ddau gyfnod daearegol newydd sydd wedi disodli’r Tertaidd. Mae’r Neogen, a barhaodd rhwng 23 ac 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn y Palaeogen.

O

oes / age

Israniad bach o amser daearegol sy’n fyrrach nag epoc. Mae creigiau’r cyfnod byr hwn yn cyfateb i uned stratigraffig. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Oes Iâ Fach / Little Ice Age

Cyfnod rhwng yr 16g a’r 19g pan oedd hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop yn oerach o lawer.

öolit / oolite

Calchfaen yn cynnwys pelenni bychain dirifedi (öolitau) o galsiwm carbonad.

Öolit Abercriban / Abercriban Oolite

Uned stratigraffig waelodol (hynaf) dilyniant creigiau’r Calchfaen Carbonifferaidd.

Ordofigaidd / Ordovician

Cyfnod daearegol a barhaodd am 42 miliwn o flynyddoedd rhwng 485 a 443 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Orogeni Caledonaidd / Caledonian Orogeny

Cyfnod o greu mynyddoedd a barhaodd o’r Cyfnod Ordofigaidd hyd y Defonaidd, ac a ddigwyddodd wrth i ddau gyfandir wrthdaro yn erbyn ei gilydd yn sgil cau hen Gefnfor Iapetws. Dyma fu’n gyfrifol am anffurfio creigiau Silwraidd ac Ordofigaidd Geoparc Fforest Fawr.

Orogeni Farisgaidd / Variscan Orogeny

Cyfnod o greu mynyddoedd a ddigwyddodd yn ystod y cyfnodau Defonaidd a Charbonifferaidd wrth i gyfandiroedd Lawrasia a Gondwana wrthdaro yn erbyn ei gilydd gan ffurfio Pangaea. Dim ond ‘crychau’ cyrion y digwyddiad hwn, a esgorodd ar synclin maes glo de Cymru a Chylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd, a effeithiodd ar Fforest Fawr.