P PH

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

P

Palaeogen / Palaeogene

Yr enw ar yr hynaf o’r ddau gyfnod daearegol newydd sydd wedi disodli’r Cyfnod Tertaidd. Parhaodd y cyfnod hwn am 43 miliwn o flynyddoedd rhwng 66 a 23 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac fe’i dilynwyd gan y cyfnod Neogen.

Palaeosöig / Palaeozoic

Ystyr y term yw ‘bywyd hynafol’. Mae’r gorgyfnod daearegol hwn yn cynnwys y cyfnodau Cambriaidd, Ordofigaidd, Silwraidd, Defonaidd a Charbonifferaidd. Fe’i dilynir gan y gorgyfnod Mesosöig.

Pangaea / Pangaea

Arch-gyfandir a ddaeth i fodolaeth yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd cyn iddo raddol chwalu’n ddarnau gan esgor ar y casgliad presennol o gyfandiroedd. Amgylchynwyd Pangaea gan Gefnfor Panthalasa.

Permaidd / Permian

Cyfnod daearegol a barhaodd am 47 miliwn o flynyddoedd rhwng 299 a 252 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

pant iâ llonydd / kettlehole

Pant ar wyneb gwaddodion rhewlifol a grëwyd wrth i dalp mawr o iâ a oedd ynghladd yn y dyddodion ddadmer. Gall y pant fod yn sych neu’n gorslyd, neu fe all gynnwys pwll neu lyn.

Pridoli / Pridoli

Epoc diweddaraf y Cyfnod Silwraidd pan gafodd creigiau Ffurfiannau Cerrig Llaid Rhaglan a Temeside eu dyddodi. Yr epoc hwn hefyd yw rhan gynharaf (h.y. isaf) yr Hen Dywodfaen Coch. Gweler siart amser Silwraidd.

Prif Galchfaen Carbonifferaidd / Main Limestone

Cyfres o galchfeini a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Fiseaidd y Cyfnod Carbonifferaidd.

PH

Dim termau.