R RH

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

R

Dim termau.

RH

Rhewlif Gwy / Wye Glacier

Rhewlif mawr, sef ‘afon’ o iâ, a lifodd i lawr dyffryn afon Gwy yr oes bresennol yn ystod un neu fwy o oesoedd iâ’r gorffennol.

Rhewlif Tywi / Tywi (Towy) Glacier

Rhewlif, sef ‘afon’ o iâ, a lifodd i lawr dyffryn llydan afon Tywi yr oes bresennol yn ystod un neu fwy o oesoedd iâ’r gorffennol. Yn ei anterth, cyrhaeddodd y rhewlif hwn cyn belled ag ardal Caerfyrddin.

Rhewlif Wysg / Usk Glacier

Rhewlif, sef ‘afon’ o iâ, a lifodd i lawr dyffryn afon Wysg yr oes bresennol yn ystod un neu fwy o oesoedd iâ’r gorffennol. Yn ei anterth, cyrhaeddodd y rhewlif hwn cyn belled ag ardal Brynbuga yng Ngwent.

Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf / Late Devensian Glaciation

Y cyfnod rhewllyd rhwng oddeutu 26,000 a 15,000 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yr Oes Iâ Ddiwethaf yn ei hanterth. Adwaenir y rhewlifiant hefyd fel Is-gyfnod Rhewlifol Dimlington.

Rhuddanaidd / Rhuddanian

Uned stratigraffig isaf y Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.

rhyng-gyfnod cynhesol / interstadial

Egwyl yn ystod oes iâ pan oedd yr hnsawdd yn gynhesach. Adwaenir y cyfnodau oer cyfatebol fel ‘is-gyfnodau rhewlifol’.

Rhyng-gyfnod cynhesol Windermere / Windermere Interstadial

Un o israniadau diwedd yr Epoc Pleistosen, rhwng oddeutu 15,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Cymru’n mwyhau hinsawdd dymherus.