ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
siâl / shale
Carreg laid sy’n holli’n rhwydd ar hyd ei phlanau gwelyo. Mae llai o ddefnydd ar y term hwn y dyddiau hyn.
Sialau Calchfaen Isaf / Lower Limestone Shales
Dilyniant o greigiau yn gorwedd o dan y prif Galchfaen Carbonifferaidd.
Sialau Calchfaen Uchaf / Upper Limestone Shales
Dilyniant o greigiau yn gorwedd ar ben y prif Galchfaen Carbonifferaidd.
Silwraidd / Silurian
Cyfnod daearegol a barhaodd am 27 miliwn o flynyddoedd rhwng 443 a 416 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.
stratigraffeg / stratigraphy
Yr astudiaeth o greigiau haenog a’r berthynas rhyngddynt. Gweler graddfa amser ddaearegol.
synclin / syncline
Creigiau ar ffurf plyg ar i lawr a all fesur ychydig gentimetrau neu ddegau o gilometrau. Mae creigiau maes glo de Cymru yn rhan o synclin sy’n cyffwrdd â ffin ddeheuol Geoparc Fforest Fawr. Gweler hefyd anticlin.
Synclin Pentre Bach / Pentre Bach Syncline
Plyg mawr ar i lawr yng nghreigiau’r Cyfnod Silwraidd y gellir ei olrhain o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin, i’r de-ddwyrain o Lanymddyfri.
System Ffawtio’r Gororau / Welsh Borderland Fault System
Set o ffawtiau y gellir eu holrhain o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin drwy sir Amwythig ac i mewn i ganolbarth a de Cymru.


