T TH

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

T

Teilfeini / Tilestones

Tywodfaen tenau yn llawn mica a ddyddodwyd yn gynnar yn ystod epoc Pridoli’r cyfnod Silwraidd Uchaf. Mae’r ffurfiant hwn hefyd yn diffinio rhan isaf yr Hen Dywodfaen Coch. Fel yr awgryma’r enw, arferid cloddio’r teilfeini mewn sawl man ar hyd eu brig a’u defnyddio i doi tai ac ysguboriau.

Telychaidd / Telychian

Un o unedau stratigraffig y cyfnod Silwraidd Isaf pan gafodd cerrig llaid Ffurfiant Cerrig eu dyddodi. Gweler siart amser Silwraidd.

Tertaidd / Tertiary

Yr hen enw ar y cyfnod daearegol a barhaodd am 63 miliwn o flynyddoedd rhwng 65 a 2.6 (neu 1.8 yn ôl rhai) o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’r cyfnodau Palaeogen a Neogen wedi disodli’r Tertaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Til / Till

Cymysgedd annidoledig o glai a cherrig amrywiol eu maint a gaiff ei waddodi pan fo rhewlif yn dadmer. Adwaenir til hefyd fel clog-glai.

Tiriogaedd gramennol / Terrane

Mae tiriogaedd gramennol . . . .

Tiriogaedd gramennol Dinlle Gwrygon / Wrekin Terrane

Mae Tiriogaedd Gramennol Dinlle Gwrygon . . . .

Triasig / Triassic

Cyfnod daearegol a barhaodd am 52 miliwn o flynyddoedd rhwng 251 a 199 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Tywod Silica / Silica Rock

Mae tywod silica yn . . . .

Tywodfaen / Sandstone

Craig waddod yn cynnwys gronynnau o dywod.

Tywodfaen Cumbriense / Cumbriense Sandstone

Tywodfaen tenau, sy’n amlwg iawn yn ardal Ystradfellte, a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y cyfnod Carbonifferaidd Uchaf.

Tywodfaen Deuddeg Troedfedd / Twelve Foot Sandstone

Un gwely arbennig o dywodfaen a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y cyfnod Carbonifferaidd. Mae’n amlwg yn nyffrynnoedd afonydd Mellte a Hepste.

Tywodfaen Dil Mêl / Honeycomb Sandstone

Calchfaen tywodlyd a ddyddodwyd yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd.

Tywodfaen Pennant / Pennant Sandstone

Yr enw ar gyfres o wahanol dywodfeini trwchus a ddyddodwyd yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd. Maent yn ffurfio’r llwyfandir sydd wedi’i ddyrannu gan gymoedd dwfn maes glo de Cymru i’r de o Geoparc Fforest Fawr.

Tywodfaen Twrch / Twrch Sandstone

Enw newydd y ‘Grut Gwaelodol’, y gwely o dywodfaen a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y cyfnod Carbonifferaidd.

TH

Dim termau