Geo-lwybrau
Cyhoeddir cyfres o daflenni a fydd yn eich helpu chi i gael mwy allan o Barc Daeargeol y Fforest Fawr – y Geoparc. Dros y 15 mis nesaf, ein bwriad yw cyhoeddi hyd at ddau ddwsin o Lwybrau Daeargeol a fydd yn gyflwyniad i chi o dirweddau naturiol a gwaith dyn yn yr ardal hon.
Bydd rhai ohonynt yn droeon hawdd hamddenol, ond bydd rhai eraill yn gorfforol galetach. Bydd rhai yn canolbwytio ar y creigiau o dan yr arwyneb, rhai eraill ar sut y mae dyn wedi llunio’r tir.
Mae Arolwg Daearegol Prydain, Prifysgol Caerdydd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyd-weithio i gyhoeddi’r teulu hwn o deithiau cerdded, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Cymru Lefi Cynaliadwyedd y Diwydiant Graeanau .
Cadwch lygad allan am y teitlau hyn:
- Mynydd Illtud
- Cribarth
- Aberhonddu
- Carreg Cennen
- Sgwd Gwladus
- Llyn y Fan Fach
- Rhaeadr Henrhyd
- Mynydd Myddfai a Chronfa Ddŵr Wysg
Y bwriad yw dod a’r goreuon o’r teithiau cerdded hyn at ei gilydd mewn cyhoeddiad unigol a ddylai fod ar werth nes ymlaen yn y flwyddyn nesaf.



