Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Geoparc y Fforest Fawr

Geoparc Ewropeaidd Cyntaf Cymru

Ogofa

Mae ogofâu Geoparc y Fforest Fawr yn enwog am eu hyd a’u cymhlethder. Pa ffordd well o ddod i ’nabod y Geoparc o’r tu mewn a’r tu allan na mynd am daith dan ddaear?

Mae systemau ogofâu wedi datblygu dros y miliwn o flynyddoedd diwethaf neu’r tebyg fel Ogof Ffynnon Ddu a’r rhai ger Llygad Llwchwr.  Mae niferoedd mawr o ogofâu a cheudyllau llai o faint yn frith ar draws y llain o Galchfaen Carbonifferaidd sydd yn rhedeg o ddwyrain i orllewin y Geoparc.

Mae Porth yr Ogof (llun) yn llecyn gwych i ymwelwyr syllu i mewn i geg agored un o fynedfeydd ogof mwyaf Prydain – un sydd yn llyncu afon gyfan, Mellte. 

Mae’n arbennig o boblogaidd â grwpiau addysg ac ieuenctid. Ond rhaid ichi gofio y gall ogofa, yn debyg i gampau antur eraill, fod yn beryglus, yn enwedig i’r sawl heb brofiad na’r offer priodol.

Os ydych am fynd dan ddaear, dylech ystyried ymaelodu mewn clwb ogofa lleol neu gael lle gyda darparwyr campau antur lleol. 

Mwynhewch arloesi perfeddion y Geoparc – cofiwch ddilyn y côd ogofa i ddiogelu eich hunan a sytemau’r ogofâu.

 

 

Gweithredoedd Dogfen