Cod Cefn Gwlad

Cyngor ar gyfer y cyhoedd

  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel y daethoch o hyd iddynt
  • Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref
  • Cadwch gŵn o dan reolaeth dynn
  • Ystyriwch bobl eraill

Cyngor ar gyfer rheolwyr tir

Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau, eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau

  • I ble gall pobl fynd ar eich tir?
  • Pa reolau sy’n gymwys ar gyfer pobl tra eu bod ar eich tir?
  • Beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau tuag at bobl ar eich tir?

Gwnewch hi’n rhwydd i bobl ymddwyn yn gyfrifol

  • Sut gallwch chi helpu pobl i gael mynediad at eich tir mewn ffordd gyfrifol a chadw at y Cod Cefn Gwlad?
  • Pa gymorth a chyngor allwch chi ei gael?

Adnabod bygythiadau posibl i ddiogelwch ymwelwyr

  • A oes unrhyw beryglon i ddiogelwch pobl ar eich tir, a sut gallwch chi ymdrin â’r risgiau hyn?