Mwynhau

Atyniad mwyaf y Geoparc yw’r dirwedd ei hun.

O lawr y cwm i gopa’r mynydd a phopeth sydd rhyngddynt, gallwch archwilio hyn gyda chymorth map neu dewiswch ganllaw llwybr neu daflen. Dewis arall yw gwrando a lawrlwytho podlediad neu ddilyn llwybr llafar.

Ar y llaw arall efallai y byddai’n well gennych ymuno â thaith dywysedig – yn ystod Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr er enghraifft (ar ddiwedd Mai/dechrau Mehefin bob blwyddyn) – neu dewch i ddigwyddiad arall sy’n dathlu treftadaeth naturiol Geoparc y Fforest Fawr.  Dechreuwch drwy edrych ar ein tudalennau Beth sy’n digwydd.

  • Edrychwch hefyd ar lleoedd i fynd iddynt am rai awgrymiadau ynglŷn â sut i dreulio ychydig o oriau neu efallai diwrnod neu fwy.
  • Wrth gwrs, efallai byddai’n well gennych archwilio’r ardal drwy beicio neu marchogaeth.
  • Cewch wybodaeth a chyngor cyfeillgar i gael y mwyaf allan o’ch ymweliad i’r Geoparc yn unrhyw un o Canolfannau Gwybodaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 
  • Mae llawer o leoedd o fewn ac o amgylch y Geoparc sy’n ateb gofynion ymwelwyr. Edrychwch arnynt - rydych yn siŵr o ddarganfod rhai a fydd yn cynnig yr union beth rydych yn chwilio amdano – boed hynny yn llety, bwyd a diod, ymlacio neu antur!  Mae digon o tai bynciau i’w cael yn yr ardal a nifer o hostelau ieuenctid wedi eu gwasgaru ar hyd y lle.
  • Gall ymwelwyr ag anhawster symudedd gael cymorth ychwanegol ar yr atyniadau gyda mynediad haws.
  • Beth am ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ymweld â’r lleoedd hyn?  Edrychwch ar Traveline Cymru am amserlenni bysys a threnau, arosfannau aros a chynllunio teithiau.
  • Newyddion Geoparc y Fforest Fawr – ddwywaith y flwyddyn cyhoeddir cylchlythyr ar gyfer yr ardal. Darllenwch hwnnw fan hyn!

Mwy i ddod!

O wanwyn 2013 ceir carfan gynyddol o Lysgenhadon Geoparc y Fforest Fawr – busnesau twristiaeth sydd llawn brwdfrydedd am y Geoparc, ei dirwedd a’i ddiwylliant ac sydd wedi’u hyfforddi i helpu’r ymwelydd i gael y gorau ohono.