Bwa Maen

image of Bwa Maen rock formation

Lle crynodd y ddaear a phlygodd y creigiau!

Gwanas garreg ysblennydd yw Bwa Maen sy’n edrych dros ddyfroedd Afon Sychryd wrth ochr Craig Dinas ym Mhontneddfechan.  Ers i’r gorchudd drosto o goed ynn, iorwg a llystyfiant arall gael eu tynnu yn 2011, gellir gweld y tŵr mawreddog hwn am beth ydyw – bwa wedi ei blygu’n dynn o Galchfaen Carbonifferaidd.

Gwrandewch ar damaid o lwybr clywedol sy’n ymweld â Sgydau Sychryd a Bwa Maen.

Mae’n hawdd cyrraedd Bwa Maen ar droed o faes parcio Craig Dinas ar ben draw’r ffordd drwy Bontneddfechan. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio hefyd, a dim ond gwaith pum munud ydyw ar hyd llinell hen dramffordd ar hyd Afon Sychryd.

Sut aeth Bwa Maen cael ei greu?

Dyddodir calchfaen mewn môr trofannol bas (360-325 miliwn o flynyddoedd yn ôl)
Mae deltâu afonydd yn gollwng tywod a llaid ar draws yr ardal
(325-315 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Gwasgwyd yr haenau creigiog hyn, sydd bellach wedi’u claddu’n ddwfn,
gan gyfandiroedd yn gwrthdaro gan beri iddynt blygu (300-200 miliwn
o flynyddoedd yn ôl)

Mae afonydd a rhewlifoedd yn erydu haenau’r graig dros filiynau o flynyddoedd –
mae Bwa Maen a Chraig y Ddinas yn dod i’r amlwg fel siapiau yn y dirwedd.

O gael eu gwthio i’w heithaf, mae’r
creigiau’n torri gan greu Ffawt Dinas.

Mae dyfroedd tymhestlog Afon Sychryd wedi torri i’r dirwedd am ddegau o filoedd o flynyddoedd i greu’r ceunant hwn a gadael i ni gael cipolwg i galon un o linellau gwendid daearegol mawr Prydain.

Yn wir y gwendid hwn y mae’r afon wedi ei ecsbloetio – roedd cerrig yn chwalu wrth i’r symud ddigwydd drosodd a throsodd ar hyd Ffawtlin Dinas, gyda phob symudiad yn cael ei deimlo ar yr wyneb fel daeargryn. Roedd yn arbennig o fywiog tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl ond hyd yn oed heddiw ceir ambell i gryndod yn tarddu o rywle ar hyd ‘Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd’, yr enw a roddir ar gasgliad o ffawtiau a phlygiadau daearegol sy’n ymestyn o Fae Abertawe i Henffordd.

Bu’r un sylweddol diwethaf ger Abertawe ar 27 Mehefin 1906; dim ond ychydig wythnosau ar ôl y daeargryn trychinebus a ddinistriodd rannau mawr o San Francisco.