Cerdded


Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau i fwynhau’r Geoparc.  Mae rhwydwaith da o lwybrau drwy’r rhan fwyaf o’r ardal ac mae bron y cyfan o’r ucheldir agored yn agored i’r cyhoedd.

Mae cyfres Geolwybrau yn cael ei chyhoeddi. Mae pob un o naw o daflenni yn edrych ar wahanol dirweddau ac yn cyflwyno ymwelwyr i ddaeareg a threftadaeth corneli amrywiol y Geoparc.  Cadwch lygad allan amdanynt!

Yn ogystal bydd llwybrau arwyddbyst fel Ffordd y Bannau yn cynnig cyfle i’r cerddwr difrifol weld rhai o olygfeydd mwyaf gwefreiddiol y Geoparc.

Edrychwch hefyd ar rai o’r taflenni teithiau cerdded daeareg y gallwch eu lawrlwytho oddi ar wefan Cymdeithas Daearegwyr De Cymru.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi cyfres o Gardiau Teithiau Cerdded, a chewch afael ar dri ohonynt yn y Geoparc. Chwiliwch am

  • ‘Pen y Fan a Chribyn’
  • ‘Cylchdaith y Bannau’
  • ‘Archwilio Llanymddyfri’

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd wedi cynhyrchu cyfres o llwybrau llafar a phodlediad sydd ar gael i’w lawrlwytho.

Dysgwch fwy am y rhain a mwy ar y tudalennau cerdded ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.