Dyma rai awgrymiadau ar gyfer lleoedd efallai yr hoffech ymweld â nhw yn Geoparc y Fforest Fawr.
- Aberhonddu a Dyffryn Wysg — os ydych yn ardal Aberhonddu mae digon o leoedd ar drothwy’r drws.
- Glyn Tarell a’r Bannau Canolog — y Bannau traddodiadol — gwerth dod i’w hadnabod yn well.
- Y Mynydd Du — llai adnabyddus na rhai ardaloedd ond yr un mor ddiddorol.
- Pontneddfechan a Bro’r Sgydau — ar frig Cwm nedd, mae’r rhan hon o’r Geoparc yn haeddu peth o’ch amser.
- Dyffrynnoedd Taf — ydych chi’n dod o gyfeiriad y de? Cewch rai profiadau gwych dim ond tafliad carreg i ffwrdd o Ferthyr Tudful.
- Cwm Tawe Uchaf (Cwm Tawe) — ydych chi wedi ystyried aros yng Nghwm Tawe Uchaf? Mae llawer i’w archwilio yn yr ardal.
- Llanymddyfri a’r Gorllewin — ydych chi’n treulio amser o amgylch Llanymddyfri neu Landeilo? Cymerwch gipolwg ar yr hyn sydd gan yr ardal hon i’w gynnig.
Ydych chi’n chwilio am rywle i aros yn y Geoparc neu gerllaw? Mynnwch gipolwg ar dudalennau llety Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.


