Bro’r Sgydau – rhaeadrau, rhedynnau a ffawtiau

Pontneddfechan, Ystradfellte, Y Coelbren, Penderyn


Dylai ymwelwyr sy’n bwriadu bod yn ymwybodol yr ardal hon yn dod yn brysur iawn ar adegau – er eich mwynhad ac er lles y gymuned leol, a fyddech cystal ag ystyried ymweld â’r tu allan i oriau brig, neu archwilio rhannau eraill llai prysur o’r Parc Cenedlaethol.


Cewch yma fwy o raeadrau trawiadol y filltir nag ar unrhyw gasgliad arall o afonydd ym Mhrydain. Pa le gwell i ymweld â fe – mewn glaw neu hindda? Mwynhewch dro dri chwater awr ar hyd y llwybr ar lannau Afon Nedd Fechan ac Afon Pyrddin nes cyrraedd Sgwd Gwladus, ac yna dychwelwch i’r pentref am ginio yn y dafarn. Rhyw bum munud yn y car i fyny’r ffordd mae’r maes parcio dan Graig-y-ddinas. Mae hen dramffyrdd yn gwneud llwybrau cerdded ardderchog rhwng gweithfeydd segur mwyngloddiau calchfaen a silica. Mwynhewch gerdded at Sgwd yr Eira gan fynd y tu hwnt i len y rhaeadr os oes gennych hanner diwrnod sbâr – un ai o Graig-y-ddinas neu Waun Hepste.


Os oes gennych awr neu lai:

  • Dro bach ar lan Afon Sychryd at Bwa Maen o galchfaen blygedig.
  • Ymweld â Maen Llia, maen hir o’r Oes Efydd.
  • Tro o gwmpas Distyllfa Wisgi Cymreig Penderyn.
  • Bwyd a diod ar gael ym Mhontneddfechan, Ystradfellte neu Penderyn.
  • Yng Nghwm Porth, ewch yn ofalus i lawr at Porth yr Ogof, y porth mwyaf i ogof yn Nghymru lle mae’r Afon Mellte’n diflannu dan y ddaear am chwater milltir.

Os oes gennych hanner diwrnod (2-4awr):

  • Dilynwch y llwybrau llafar, gan gerdded at Afon Nedd Fechan ac Afon Pyrddin i weld Sgwd Gwladus a rhaeadrau eraill.
  • Cerdded o Benderyn dros Foel Penderyn i Graig y Ddinas ac yn ôl.
  • Cerdded o Benderyn i Sgwd yr Eira ac yn ôl.

Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8awr):


Oeddech chi’n gwybod . . ?

. . . . gan fod y graig silica a gloddiwyd yma ny Nghraig-y-ddinas wedi ei ffurfio i fewn i friciau tân a’i allforio yn rhyngwladol.