Pontneddfechan a Sgwd Gwladus

Mae Bro’r Sgydau wedi bod yn arbennig o brysur yn ddiweddar. Beth am archwilio rhan arall o’r Geoparc neu’r Parc Cenedlaethol ehangach ar hyn o bryd? Os oes rhaid i chi ymweld â’r ardal hon, er mwyn osgoi damweiniau, peidiwch â chael eich temtio i neidio i byllau. Efallai ei fod yn edrych yn ddeniadol ond mae’r dŵr yn aml yn fwy bas nag y mae’n ymddangos ac mae creigiau wedi’u cuddio ychydig o dan ei wyneb tywyll.


Taith gerdded hardd ar hyd glannau Afon Nedd Fechan o tu hwnt dafarn ‘Angel’Ganolfan ym Mhontneddfechan gyda Sgwd Gwladus yn ei ogoniant ar ddiwedd y daith.

Cyfeirnod AO SN 900076 (maes parcio) hyd SN 896093

Mae’r daith gerdded, sydd ar hyd llawer o’r hen lein tramiau a oedd yn gwasanaethu mwynfeydd silica sydd bellach yn segur, yn cymryd rhyw 40 munud i’w chyflawni.

Daeareg

  • Carbonifferaidd: Y Garreg Ddiffaith, Tywodfaen Deuddeg Troedfedd, Tywodfaen Cumbriense, Carreg Laid Llandeilo Ferwallt

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Geolwybrau
  • Llwybrau llafar ‘Goblin Gwladus’ a ‘Ffosiliau a Brics Tân’  sydd ar gael i’w lawrlwytho

Cyfleusterau

  • Cyflesuterau cyhoeddus
  • Maes parcio yn SN 900076
  • Tafarndai
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Gwastad yn bennaf i’r ardal bicnic.
  • Cymerwch ofal ger yr afon ddofn, oer a chyflym, yn enwedig ar wyneb creigiau sy’n gallu bod yn llithrig.

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar ddiwedd y B4242 o Lyn-nedd
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru

Atyniadau eraill gerllaw