Porth yr Ogof

Mae’r safle hon wedi bod yn arbennig o brysur yn ddiweddar. Beth am archwilio rhan arall o’r Geoparc neu’r Parc Cenedlaethol ehangach ar hyn o bryd?


Un o’r pyrth mwyaf i ogof yng Nghymru lle mae Afon Mellte yn cael ei llyncu’n gyfan gwbl.

Cyfeirnod AO SN 928124 (maes parcio a chanolfan wybodaeth)

Gellir gweld yr ogof wrth ddilyn taith gerdded fer o’r maes parcio. Mae taith gerdded bum munud ger hen wely’r afon yn arwain at y mynediad isaf ger ‘Y Pwll Glas’.

Daeareg

  • Calchfaen Carbonifferaidd

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Cyhoeddiadau amrywiol

Cyfleusterau

  • Canolfan Wybodaeth Cwm Porth
  • Maes parcio talu ac arddangos
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Grisiau creigiog serth i lawr i’r fynedfa, gall fod yn llithrig

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar isffyrdd o Ystradfellte
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful

Atyniadau eraill gerllaw