Mae dyfroedd Afon Tawe yn casglu yma yn rhannau uchaf hardd y cwm – ydych chi erioed wedi ystyried galw heibio? Mae llawer i’w ddarganfod yn yr ardal.
Efallai bod mwy o ddiddordeb yma ymhob troedfedd sgwâr nag yn unrhyw fan arall o’r Geoparc. Mae’r cymysgedd o greigiau – Hen Dywodfaen Coch, Calchfaen carbonifferaidd, Tywodfaen Twrch a Haenau Glo – yn creu tirwedd gyfoethog. Dyma’r man i chi ddechrau archwilio mannau mwyaf gwyllt y Geoparc.
- Parc Gwledig Craig-y-nos — yn llochesu yn y culfeydd rhwng creigiau calchfaen Craig-y-nos a Chraig Rhiwarth.
- Cribarth — yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ‘mynydd bach’ — mae’n bendant yn un o’r bryniau mwyaf diddorol ym Mhrydain.
- Sgwd Henrhyd — y rhaeadrau uchaf yn Ne Cymru.
- Penwyllt a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu — daeareg, botaneg ac archaeoleg ddiwydiannol yn dod at ei gilydd yn un ardal hudol.
- Waun Fignen-felen — cors ag iddi orffennol ac, ar ôl ymyriad diweddar gan ddyn, mae iddi ddyfodol.
- Tramffordd Fforest Brycheiniog — rhwydwaith cludiant cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gellir gweld ei olion yn y dirwedd hyd heddiw.
- Fan Hir a Llyn y Fan Fawr — llyn rhewlifol yn nythu o dan sgarp mynydd trawiadol
Cwymp tir yn cau llwybr poblogaidd yng Nghwm Tawe Uchaf
Cafwyd cwymp tir mawr ar arglawdd rheilffordd segur yn GR 865182 rhwng Penwyllt a Bwlch Bryn-rhudd lle mae’r rheilffordd yn cwrdd â’r A4067.
Mae’r cwymp tir ar dir mynediad ond ataliwyd unrhyw hawliau tramwy tan i’r ardal gael ei sefydlogi er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Felly, nid yw’n bosibl cerdded o Benwyllt i Fwlch Bryn-rhudd ar hyd yr hen reilffordd.
Peidiwch, ar unrhyw gyfrif, nesáu at y cwymp tir gan ei fod yn ansefydlog a gallai cwymp arall ddigwydd. Cyhoeddwyd y rhybudd ar 23 Medi 2010.




