Bannau Clasurol – mae’n werth cyfarwyddo’n well â’r rhain.
Mae’r dyffryn deniadol hwn yn gwthio ei hun yn ddwfn i galon y mynyddoedd, ac yn cynnig mynediad parod i gopaon y Bannau Canolog.
- Craig Cerrig-gleisiad — dyffryn ag awyrgylch mynyddig ond heb ormod o ymdrech.
- Craig-y-fro — gwerth galw heibio os ydych yn teithio ar hyd yr A470.
- Cwm Llwch — yn llochesu o dan y copaon uchel cewch fwy o lonyddwch yma nag yn uwch i fyny.
- Pen y Fan a Chorn Du — dyma’r mynyddoedd â’r proffil uchaf yn y Geoparc. Mae’r golygfeydd yn gwneud yr ymdrech yn werth chweil.



