Cribarth

Ar adegau gelwir hwn yn ‘Y Cawr sy’n Cysgu’ oherwydd ei broffil pan fyddwch yn ei weld o ochr isaf y cwm. Mae’r mynydd bychan ond garw hwn wedi cael ei chwarelu yn eang a gwelir hen ffyrdd tramiau fel rhwydwaith ar ei draws.

Cyfeirnod AO SN 827142 (pwynt triongli)

Mae cribyn Cribarth yn ymestyn ar hyd ‘Cylchfa Ffawtio-plygu Cribarth’ – hen linell o wendid yng nghramen y Ddaear sy’n ymddangos yma fel dau anticlin tynn (uwchblygiadau yn y craigwelyau). Mae amrywiaeth o lwybrau yn arwain cerddwyr at y bryn – mae pob un ohonynt yn serth!

Mae’r dirwedd ar y bryn yn gymhleth gyda nifer o gnyciau, llyncdyllau, hen weithfeydd segur chwareli a chreigiau naturiol. Mae’n cynnig ei hun i archwiliadau gwych ond gall fod yn gamarweiniol yn y niwl, yn enwedig os ydych yn ymweld am y tro cyntaf.

Y prif gribyn yw’r anticlin neu’r bwa calchfaen sy’n gorwedd o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin y cafodd ei graig wedi torri ei chwarelu’n helaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae iddo welyau o garreg grut serth (neu ‘Tywodfaen Twrch’) ar bob ochr ac ardal o gerrig pwdr i’r gogledd lle cafodd eu dyddodion eu disbyddu’n gyflym gan weithlu o dan arweiniad yr entrepreneur John Christie.

Mae dwsinau o lyncdyllau mawr wedi eu sgathru ar draws yr ardal. Mae’n bosibl y gall un pant penodol i’r gorllewin o gribyn Cribarth, y cyfeirir ato efallai’n fwy manwl gywir fel ‘dolin’, hawlio lle fel y llyncdwll naturiol mwyaf yng Nghymru.

Mapiau

  • OS Landranger 160, OS Explorer OL12
  • Daearegol — ‘Fforest Fawr: archwilio tirwedd Geoparc Byd-eang’ (1:50,000 o BGS), a hefyd . . .
  • dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’.

Canllawiau

  • Llwybr ‘Crib ac Afon’ (o Aber-craf): llwybr-crib-ac-afon
  • Geolwybr ‘Cribarth’ (o barc gwledig): Cribarth_Cymraeg
  • Geodaith – dadlwythwch yr ap i’ch ffôn symudol am ddim o’r Google Play neu’r App Store (chwiliwch ‘Geotours’)

Cyfleusterau

  • Maes parcio talu ac arddangos ym Mharc Gwledig Craig-y-nos yn SN 840155.
  • Toiledau yn y parc gwledig
  • Caffi ym Mharc Gwledig
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Llwybrau creigiog serth, angen gofal wrth lwybro. Rhybudd! — amgylchedd mynyddig! 

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar yr A4067
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaeth T6 yn aros yng  Nglyntawe a Phen-y-cae
  • Ar feic — mae rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cael ei osod ymhellach i lawr y cwm

Atyniadau eraill gerllaw