Parc Gwledig Craig-y-nos

Parc gwledig poblogaidd a ddatblygwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o amgylch Afon Tawe ar hen safle Castell Craig-y-nos.

Cyfeirnod AO SN 840155

Ystafelloedd te a bwyty ‘Dwy Afon’ – ar agor: Yn ddyddiol o 10am.

Cadw lle yn yr Ystafelloedd Te: 07535 488009.

  • Hufen iâ, te a choffis.
  • Bwydlen arloesol dymhorol wedi ei pharatoi’n lleol.
  • Bwydlen wahanol ar gyfer cinio dydd Sul
  • Canolfan cynnyrch a chrefftau lleol
  • Bwyty hyd 10.30 p.m. ar nosweithiau Gwener a Sadwrn (drwy gadw lle o flaen llaw yn unig)

Lleoliad deniadol rhwng dau glogwyn calchfaen Craig Rhiwarth a Chraig-y-nos yn rhan uchaf Cwm Tawe.

Daeareg

  • Cwaternaidd: tywod a graean afon, marian rhewlifol
  • Calchfaen Carbonifferaidd

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Mae taflenni ar gael

Cyfleusterau

  • Maes parcio talu ac arddangos
  • Pwyntiau gwefru ceir trydan (12)
  • Toiledau, peiriannau gwerthu
  • Gerddi wedi eu tirlunio, cyfleusterau picnic
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Yn hygyrch yn helaeth

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar yr A4067 
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd, Aberdâr a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaeth 63 (Stagecoach) yn aros yng Nglyntawe

Atyniadau eraill gerllaw