Penwyllt a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu

Ogof Ffynnon Ddu yw un o’r rhwydweithiau ogof mwyaf yn Ewrop. Ar yr wyneb mae palmentydd calchfaen a sgarpiau.

Cyfeirnod AO SN 856155 (maes parcio) i SN 868160

Mae olion hen weithfeydd brics tân i’w gweld o amgylch Penwyllt. Mae hen weithfeydd chwareli a ffyrdd tramiau wedi eu gwasgaru ar hyd y dirwedd. Dim ond ychydig o adeiladau sydd wedi goroesi o’r cyfnod pan roedd poblogaeth o 350 yma ym ‘mhen y gwyllt’. Mae teras a oedd unwaith yn gartref i weithwyr a’u teuluoedd bellach yn bencadlys i Glwb Ogofa De Cymru. Y tu hwnt iddo ac ar ochr ddeheuol tramffordd hir o bwll tywod silica Pwll Byfre mae olion yr odynnau gwaith brics.

Uwchben yr hen bentref mae brigiadau calchfaen carbonifferaidd ac, uwchben y rhain, mae llinell o greigiau Tywodfaen Twrch o’r gorwel dwyreiniol. Mae tiroedd calchaidd dros y calchfaen yn sail i fflora amrywiol yn enwedig lle mae planhigion yn cael eu diogelu rhag defaid yn pori. Mae ardaloedd o balmentydd calchfaen yn diogelu planhigion rhag y defaid a’r tywydd gwaethaf hefyd.

Mae ardaloedd o balmentydd carreg grut (Tywodfaen Twrch) ar y tir uchaf, mae eu harwynebedd wedi eu treulio’n llyfn gan yr iâ oddeutu 20,000 mlynedd yn ôl. Mae rhychiadau a naddwyd i mewn i arwynebedd y graig arbennig o galed ac ar adegau sgleiniog hon, wedi goroesi i ddweud wrthym i ba gyfeiriad y symudodd yr iâ ar draws y bryniau hyn.

Daeareg

  • Calchfaen Carbonifferaidd, Tywodfaen Twrch (Grutfaen Melinfaen)

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Taflen Geolwybr Penwyllt
  • Mae atgofion plentyndod gan hen drigolion gynt ym Mhenwyllt ar gael i’w lawrlwytho.
  • Geodaith Penwyllt – dadlwythwch yr ap i’ch ffôn symudol am ddim o’r Google Play neu’r App Store (chwiliwch ‘Geotours’)

Cyfleusterau

  • Rhai paneli deongliadol o amgylch y warchodfa
  • Parcio am ddim ym Mhenwyllt yn SN 856155
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Gwlad agored; peth tir garw; amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal! 

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar yr isffordd oddi ar yr A4067
  • Ar y trên — mae’r gorsafsoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaeth 63 (Stagecoach) yn aros yng Nglyntawe a Phen-y-cae

Atyniadau eraill gerllaw