Sgwd Henrhyd

Mae’r rhaeadr ysblennydd hon, yr uchaf yn y Geoparc, yn syrthio oddi ar Y Garreg Ddiffaith i lawr i geunant coediog.

Cyfeirnod AO SN 853119

Mae’r rhaeadr a’r maes parcio yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael eu rheoli ganddi.

Daeareg

  • Carbonifferaidd: Y Garreg Ddiffaith, Haenau Glo

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

Cyfleusterau

  • Caffi tymhorol yn Neuadd Les Coelbren – agor bob dydd drwy gwyliau’r Pasg a’r haf
  • Panel deongliadol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y maes parcio
  • Parcio am ddim yn SN 853121
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Llwybrau cul a serth; grisiau pren serth. Creigiau llithrig o dan y rhaeadr

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — arwyddion ar hyd isffyrdd o’r A4221 a’r A4067
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful  ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaeth 63 (Stagecoach) yn aros yng  Nglyntawe a Phen-y-cae
  • Ar feic — defnyddiwch y rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o Ystradgynlais i’r Coelbren

Atyniadau eraill gerllaw