Mae dwy daith gerdded yn dechrau ger y graig galchfaen ysblennydd hon a gloddiwyd ac a ffurfiwyd ger Cylchfa Ffawtio-plygu Castell-nedd ar ben Cwm Nedd.
Cyfeirnod AO SN 912079 (maes parcio) i SN 920086
Mae’r daith gerdded fyrraf ar hyd glannau Afon Sychryd hyd golygfa o’r Bwa Maen – plethiad daearegol tyn a gafodd yr enw ‘arch’ neu ‘fwa o graig’. Mae’r daith gerdded hirach yn archwilio hen Weithfeydd y Powdwr Du sydd wedi eu taenu ar hyd a lled glannau gogleddol Afon Mellte.
Daeareg
- Calchfaen Carbonifferaidd , Tywodfaen Twrch (Grutfaen Gwaelodol)
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’
Canllawiau
- ‘Yr Hen Ffatri Powdwr Du yng Nglyn-nedd’
- ‘Explosive Times’ llyfryn graffeg newydd dull ‘manga’
- Llwybr llafar — dilynwch y ddolen hon i lawrlwytho ‘Y Llwybr Powdwr’.
Cyfleusterau
- Canolfan y Rhaeadrau — newydd yn 2008 — ym Mhontneddfechan sy’n cynnig gwybodaeth ynglŷn â’r ardal leol a’r Geoparc ehangach, a dehongliad ohonynt
- Caffi yn y neuadd gymunedol ar benwythnosau
- Llwybr llafar deongliadol (sydd i’w weindio â llaw) ar Weithfeydd y Powdwr Du
- Maes parcio yn SN 912079
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Gwastad; yn rhydd o rwystrau
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — y tu hwnt i ddiwedd y B4242
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru


