Taith gerdded hardd ar hyd glannau Afon Nedd Fechan o Ganolfan y Rhaeadrau ym Mhontneddfechan gyda Sgwd Gwladus yn ei ogoniant ar ddiwedd y daith.
Cyfeirnod AO SN 900076 (maes parcio a chanolfan wybodaeth) hyd SN896093
Mae’r daith gerdded, sydd ar hyd llawer o’r hen lein tramiau a oedd yn gwasanaethu mwynfeydd silica sydd bellach yn segur, yn cymryd rhyw 40 munud i’w chyflawni.
Daeareg
- Carbonifferaidd: Y Garreg Ddiffaith, Tywodfaen Deuddeg Troedfedd, Tywodfaen Cumbriense, Carreg Laid Llandeilo Ferwallt
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’
Canllawiau
- Geolwybrau
- Llwybrau llafar ‘Goblin Gwladus’ a ‘Ffosiliau a Brics Tân’ sydd ar gael i’w lawrlwytho
Cyfleusterau
- Canolfan y Rhaeadrau — newydd yn 2008 — yn cynnig gwybodaeth ar ddehongliad o ardal leol a’r Geoparc ehangach
- Maes parcio yn SN 900076
- Tafarndai a siop/swyddfa’r post
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Gwastad yn bennaf i’r ardal bicnic.
- Cymerwch ofal ger yr afon ddofn, oer a chyflym, yn enwedig ar wyneb creigiau sy’n gallu bod yn llithrig.
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ar ddiwedd y B4242 o Lyn-nedd
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru


