Y Bannau Clasurol

Mynydd Illtud, Glyn Tarell a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol


Dewiswch daflen Geolwybr o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ac yna fwynhau mynd am dro ar y tir comin ar Fynydd Illtud. Ewch yn ôl i Ganolfan Ymwelwyr i gael paned neu ginio.

Dafliad carreg i ffwrdd mae Glyn Tarell, a’r olygfa eiconaidd o Ben y Fan a’r Corn Du i’r dwyrain, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych i’r gorllewin.

Os oes gennych awr neu lai:

Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):

  • Ewch am dro hirach ar y tir comin e.e Geolwybr Mynydd Illtud, ne dadlwythwch a dilynwch y Geodaith.
  • Ymweld ag Aberhonddu – siopau, caffis, Y Gaer (amgueddfa), Eglwys Gadeiriol ayyb.

Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):

  • Dilynwch gerdyn llwybrau er mwyn dringo Pen y Fan o Storey Arms (nid tafarn!) ne o Bont ar Daf.
  • Dilynwch y llwybr Glyn Tarell (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) uchaf oddi yma hefyd, er mwyn gweld golygfeydd gwych o farianau rhewlifol a tirlithriadau tir Craig Cerrig-gleisiad.

Oeddech chi’n gwybod . . ?

. . . mae pen gwastad Pen y Fan yn ganlyniad o gap caled o dywodfaen Haenau’r Llwyfandir – mae crychdonnau yn y creigwely yn bradychu ei wreiddiau dyfllyd.