Craig Cerrig-gleisiad

Gwarchodfa natur genedlaethol sy’n cael ei rheoli gan Gyforth Naturiol Cymru (CNC) am ei thirffurfiau rhewlifol – creigiau, marianau a chwympiadau tir – a’u fflora a ffawna mynyddig.

Cyfeirnod AO SN 965221 (Canolfan y safle)

Mae llethr y mynydd hwn yn amlwg mewn golygfeydd i fyny Glyn Tarell. Mae’n gymharol hawdd i’w gerdded ar y ffordd i’r dyffryn o dan y prif glogwyni lle gellir sawru awyrgylch y lle. Mae creigiau Ffurfiant Senni yr Hen Dywodfaen Coch yn ffurfio creigiau trawiadol â llystyfiant drostynt ac islaw’r rhain y mae’r marianau a dyddodion cwympiadau tir, sydd yr un mor drawiadol, a etifeddwyd o’r Oes Iâ ddiwethaf. Mae rhwydwaith o lwybrau yma ac i fyny at Fan Frynych gerllaw yn cynnig nifer o ddewisiadau i’w cerdded.

Daeareg

  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Senni
  • Cwaternaidd; cwm rhewlifol a marianau, cwympiadau tir

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 213 ‘Brecon’

Canllaw

  • Taflen CNC am ddim i’w chael ar y safle

Cyfleusterau

  • Man picnic, arddangosfa ddeongliadol ar y cychwyn
  • Parcio am ddim mewn encilfa yn SN 972223
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Gwlad agored, llwybrau cymharol serth dros dir anghyson; llethr 75m / 250’  i’r cwm; amgylchedd mynyddig – cymerwch ofal!

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ger yr A470
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni – ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; gwasanaeth T4 rhwng Caerdydd ac Aberhonddu

Atyniadau Geoparc eraill sydd gerllaw