Y Mynydd Du – cyfoeth y ddaear

Canolfan y Mynydd Du a Chwareli’r Mynydd Du


Rhowch gychwyn da i’r diwrnod drwy gael diod neu frecwast llawn yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman yna dilynwch ffordd y mynydd i hen gyfadeilad chwarel y Mynydd Du.

cialis generiqudiod neu frecwast yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman, cyn anelu i fyny ffordd y mynydd at hen adeiliadau Chwareli’r Mynydd Du.

Yno, gellwch fwynhau golygfeydd i’r gorllewin at Sir Benfro, at Fôr Hafren i’r de, ac at Bumlumon i’r gogledd ar ddiwrnod clir. Bu calchfaen a chraig a thywod silica’n cael eu cloddio’n llafurus yma hyd bumdegau’r ganrif ddiwethaf. Gallech ddod ar draws cromlechi o’r Oes Efydd ar Ffordd y Bannau i’r dwyrain a’r gorllewin, neu gallech fwynhau mwy o gysgod yn y dyffrynnoedd coediog ar lethrau deheuol y Mynydd Du.

Ceunant Twrch, Y Mynydd Du

Ceunant Twrch, Y Mynydd Du

Os oes gennych awr neu lai:

Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):

Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):

  • Archwiliwch ddarn o Ffordd y Bannau o Chwareli’r Mynydd Du.
  • Dilynwch gamau’r Twrch Trwyth, baedd gwyllt chwedlonol, gan ymweld â mannau y cyeirir atyny yn y Mabinogion. Chwiliwch am becyn llwybrau Dyffryn Aman yn y ganolfan.

Oeddech chi’n gwybod . . ?

. . . . roedd dyffryn Aman yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg pan ymwelodd George Borrow â ‘Gwter Fawr’ (heddiw Brynaman) yn y 1840au – ac mae’n parhau i fod felly heddiw.