Chwarel Herbert

Gweithfeydd chwareli calchfaen segur yn union oddi ar ffordd Brynaman i Langadog sy’n cael eu dehongli i’r cyhoedd.

Cyfeirnod AO SN 733187 (maes parcio)

Mae’r safle’n cynnig golygfeydd panoramig dros ochr orllewinol y Geoparc. Mae’n gyforiog o weithfeydd chwareli, pyllau ac odynnau calch segur.

Daeareg

  • Carbonifferaidd: Siâl Calchfaen Isaf , Cil-yr-Ychen Calchfaen, Calchfaen Llandyfan, Siâl Calchfaen Uchaf, Tywodfaen Twrch
  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd): Ffurfiant Cerrig Cochion

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 230 ‘Llandovery’

Canllaw

  • Geolwybr

Cyfleusterau

  • Parcio am ddim
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Yn agos i’r ffordd, gwlad agored, amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal! 

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar ffordd yr A4069 Llangadog-Brynaman
  • Ar y trên — mae’r orsaf agosaf yn Llangadog — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae’r gwasanaethau agosaf yn mynd i Frynaman a’r 280/281 drwy Langadog

Atyniadau eraill gerllaw