Ogofa


Mae ogofeydd Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn enwog am eu hyd a’u cymhlethdod. Pa ffordd well sydd o ddod i adnabod y Geoparc y tu mewn a’r tu allan na thrwy fynd ar daith o dan yr wyneb?

Dros y miliynau o flynyddoedd diwethaf datblygodd prif systemau ogofeydd fel y rhai hynny yn Ogof Ffynnon Ddu a Llygad Llwchwr. Mae nifer fawr o ogofeydd llai a cheudyllau i’w cael o amgylch y calchfaen carbonifferaidd sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin drwy’r Geoparc.

Mae Porth yr Ogof (sydd yn y llun hwn) yn fan gwych i ymwelwyr edrych i mewn i geg agored un o’r mynedfeydd mwyaf i ogofeydd ym Mhrydain – ac un sy’n llyncu afon gyfan, sef Afon Mellte.

Mae’n arbennig o boblogaidd gyda grwpiau addysgol ac ieuenctid. Ond cofiwch, yn gyffredin â chwaraeon antur eraill, gall archwilio ogofeydd fod yn beryglus, yn enwedig i’r rhai hynny heb y profiad na’r offer iawn.

Os ydych am fynd o dan y ddaear, ystyriwch ymuno â chlwb ogofa lleol neu neilltuo lle ar gwrs ogofa gyda darparwr chwaraeon antur lleol.

Mwynhewch archwilio dan wyneb y Geoparc – cofiwch ddilyn y cod ogofa i ddiogelu eich hun a’r system ogofeydd.