Croeso i Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr!

Cacen greigiau haenog, craciog a chrychlyd a ffurfiwyd dros mwy na 470 miliwn o flynyddoedd. Tirwedd wedi’i cherflunio gan rew ac wedyn ei thrawsnewid gan ddyn –  yn dyst i enedigaeth y Chwyldro Diwydiannol.  Dim ond ychydig o’n straeon yw’r rhain . . . . . 

Ystyriwch osgoi smotiau poblogaidd fel Storey Arms a Bro’r Sgydau ar adegau prysur – mae yna lawer o leoedd eraill i’w darganfod yn yr ardal hon!


Map Geoparc syml

Cliciwch ar y map i’w ehangu.

Mae’r Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn ystod o ucheldir a gafodd ei gynnwys ym Mharc Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu ym 1957. Mae’r ucheldiroedd hyn wrth galon y Geoparc y Fforest Fawr er ei fod yn ymestyn y tu hwnt iddynt i gynnwys llawer o gefn gwlad o’u hamgylch. Yn wir mae 300 milltir sgwâr / 763 cilometr sgwâr Geoparc yn cynnwys mynyddoedd a rhostir, coedwigoedd a dolydd, trefi a phentrefi, llynnoedd ac afonydd a llawer mwy hefyd. Edrychwch ar y map hwn ohono.

Sefydlwyd Geoparc y Fforest Fawr ym mis Hydref 2005. Rhan o’r Rhywdwaith Geoparcau Ewropeaidd am 16 mlynedd, mae Geoparc Fforest Fawr bellach yn un o 169 aeolodau Rhwydwaith Geoparciau Byd-eang UNESCO a sefydlwyd yn ffurfiol ar 17 Tachwedd 2015.

  • Dealltwriaethgwybodaeth am ddaeareg, bywyd gwyllt, archeoleg, chwedlau, a hanes yr ardal a llawer mwyyn rhoi gwybodaeth i chi am bob math o bynciau.
  • Mwynhau – syniadau ar gyfer lleoedd i’w gweld a phethau i’w gwneud pan fyddwch yn ymweld â’r Geoparc.
  • Gofalu – sut mae’r ardal yn cael ei diogelu a sut gallwch chi helpu.
  • Addysg – ystafell ddosbarth awyr agored o’r radd flaenaf yw’r Geoparc.
  • Beth sydd ymlaen –  manylion am deithiau cerdded a sgyrsiau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod.

Pan fyddwch yn gwybod ychydig yn fwy byddwch yn barod i ymweld â ni. Nawr, mae dod yma yn rhwydd!

Ceir gwybodaeth am y Geoparc yn Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ( ‘y Ganolfan Fynyddig’) yn Libanus ger Aberhonddu. Byddwn yn agor ‘Man Darganfod Geoparc’ newydd ym Mharc Gwledig Craig-y-nos yng Nghwm Tawe uchaf yng ngwanwyn 2021.

Ffotograffiaeth © BBNPA/Arolwg Ddaearegol Prydain/Nigel Forster/Philip Veale/Alan Bowring

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 04 Mawrth 2022.