‘Geoparc’ – beth yw ystyr yr enw?
Ateb:Yn wahanol i’r hyn a ellir ei feddwl o bosibl, nid yw ‘geopark’ yn dalfyriad o ‘geological park’. Mae ‘geo’ yn dod am y gair Groeg am ddaear. Mae geoparc ynglŷn â phob agwedd o dreftadaeth ardal – bywyd gwyllt, hanes, archaeoleg, yr amgylchedd adeiledig, mythau a diwylliant ac yn y blaen. Wrth gwrs caiff hyn i gyd ei danategu gan ddaeareg – caiff gweithgareddau dynol eu ffurfio gan dirweddau (ac i’r gwrthwyneb) – ond mae llawer mwy na cherrig i Geoparc.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Geoparc a Pharc Cenedlaethol?
Ateb: Sefydlwyd pymtheg parc cenedlaethol Cymru, Lloegr a’r Alban o dan ddarnau amrywiol o ddeddfwriaeth er mwyn amddiffyn tirweddau gorau’r genedl ac i helpu pobl i fwynhau eu rhinweddau arbennig. Ar hyn o bryd mae saith Geoparc yn y Deyrnas Unedig – mae eu rôl yn debyg i rolau parciau cenedlaethol ond mae’r pwyslais ar fusnes a chymunedau yn gweithio i wneud y gorau o’u treftadaeth naturiol a diwylliannol ac felly i ddod â buddiannau economaidd i’r ardaloedd hynny. Yn wahanol i barciau cenedlaethol, nid oes gan Geoparciau unrhyw swyddogaethau ynglŷn â chynllunio gwlad a thref – er eu bod yn cefnogi mentrau cadwraeth.
Pam sefydlwyd Geoparc yma?
Ateb:Mae gan yr ardal dreftadaeth ddaearegol bwysig a chyfres o sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy’n dymuno gwneud y gorau o’r ased hwn. Un nod yw cynyddu ffyniant yr ardal, yn bennaf trwy hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth cynaliadwy sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth well gan breswylwyr ac ymwelwyr o’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol.
Pam nad yw’n cynnwys y Parc Cenedlaethol i gyd?
Ateb: Er bod themâu cyffredin i ddaeareg a diwylliant Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cyfan, yn y gorllewin mae cymunedau’n wynebu mwy o heriau economaidd. Bwriad dynodiad y Geoparc ar draws hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol yw rhoi hwb i’r cymunedau hynny.
Pwy sy’n rhedeg y Geoparc?
Ateb: Mae’n cael ei redeg gan bartneriaeth o sefydliadau sy’n cynrychioli gwahanol ddiddordebau. Y prif bartner yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r ddau bartner ‘craidd’ arall yw Arolwg Daearegol Prydain a Phrifysgol Caerdydd. Mae llawer o bartneriaid eraill yn cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol i fywyd y Geoparc.
Pwy sy’n talu am y Geoparc?
Ateb: Darperir y gyllideb graidd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er bod sefydliadau eraill yn cyfrannu’n ariannol ac mewn nwyddau. Cafodd prosiectau unigol megis ailwampio Canolfan y Rhaeadrau yn 2008 eu cyflawni drwy gymorth grant gan gyrff ariannu megis Cronfa Cynaliadwyedd Ardoll Agregau Cymru, tra bod sefydlu presenoldeb Geoparc newydd yng Nghraig-y-nos yn 2021 wedi’i ariannu gan Llywodraeth Cymru.
Pwy sy’n berchen ar y Geoparc?
Ateb: Yn debyg i’r Parc Cenedlaethol, perchenogir y lle gan fyrdd o dirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat. Mae trefniadau ar gyfer mynediad i’r Geoparc yr un peth ag ar gyfer y Parc Cenedlaethol ac unrhyw ardal arall yng Nghymru neu Loegr.