Y Cyfnod Silwraidd

(443 – 419 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Y stori fawr . . .

Ar ddechrau’r cyfnod hwn mewn hanes daearegol, roedd y tiroedd a fyddai’n dod yn gyfarwydd fel Cymru a Lloegr yn y pen draw yn gorwedd o fewn rhan ddwyreiniol cyfandir fach rydym yn galw ‘Afalonia’ arni. Roedd yn gorwedd ymhell i’r de o’r Cyhydedd, wedi’i gwahanu oddi wrth gyfandir fawr ‘Lawrensia’ i’r gogledd ohoni gan gefnfor rydym yn galw ‘lapetws’ arno. Roedd yr Alban yn rhan o’r gyfandir fwy gogleddol hon ynghyd â’r Ynys Las a llawer o Ogledd America.

Yn ystod y cyfnod Silwraidd, gwrthdrawodd Dwyrain Afalonia â Baltica i ffurfio cyfandir fwy rydym yn galw ‘Lawrwsia’ arni.

Gwnaeth y gwrthdrawiad hwn beri i gadwyn enfawr o fynyddoedd gael eu codi wrth i’r ddau ddarn o dir angori. Mae daearegwyr yn cyfeirio at y cyfnod hwn o greu mynyddoedd fel yr ‘Orogeni Caledonaidd’. Mae mynyddoedd gogledd Cymru, Ardaloedd Llynnoedd Lloegr a’r Alban gyfoes oll yn ‘wreiddiau’ erydedig i’r hyn a fu’n gyn gadwyn o fynyddoedd. Cyfeirir at y rhain erbyn hyn fel y ‘Mynyddoedd Caledonaidd’ ac mae’n bosibl y gallai’r rhain fod wedi bod yr un mor fawr â mynyddoedd yr Himalaya.

Creigiau Silwraidd o Geoparc

Creigiau Silwraidd o Geoparc

Etifeddiaeth y creigiau . . .

Mae creigiau o’r oes hon i’w cael yn ardal orllewinol y Geoparc. Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini yw’r rhain yn bennaf a chafodd rhai o’r rhain eu dyddodi mewn dŵr dwfn ar y silff gyfandirol. Cafodd eraill eu dyddodi mewn dŵr bas fel y mae’r crychnodau a gadwyd ynddynt yn eu hawgrymu.

Mae gwely creigiog Ceunant Sawdde y mae ffordd A4069 o Langadog i Frynaman yn ei ddilyn yn cynnig cyfle da i weld yr olyniaeth hon o greigiau sydd oll yn goleddfu’n serth i’r de-ddwyrain yn yr ardal hon.

 

Haenau creigiau Disgrifiad Trwch yn fras
Carreg Laid Rhaglan Cerrig llaid/cerrig silt a rhai tywodfeini 1100m
Carreg Laid Temeside Cerrig silt lleidiog gyda rhai tywodfeini Hyd at 50m
Llechfeini Tywodfeini 15 hyd at 35m
Cae’r Mynach Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini 155 hyd at 260m
Ffibiwa Cerrig llaid 40 hyd at 170m
Trichrug Tywodfeini lleidiog Hyd at  20m
Tywodfaen Mynydd Myddfai Tywodfeini gyda rhai clymfeini Hyd at  30m
Aberedw Cerrig silt a thywodfeini lleidiog Hyd at 80m
Hafod Fawr Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini Hyd at 710m
Cwm Craig Ddu Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini 70 hyd at 425m
Irfon Cerrig llaid a cherrig silt Hyd at  120m
Fferm Halfway Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini Hyd at 105m
Tywodfaen Sawdde Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini Hyd at 660m
Tirabad Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini Hyd at 740m
Llangammarch Cerrig llaid a cherrig silt Hyd at  500m
Cerrig llaid Llanfair-ym-Muallt Cerrig llaid Hyd at 260m
Cerrig Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini 750m
Derwyddon Tywodfeini 25 hyd at 75m
Tywodfaen Cefngarreg Tywodfeini gyda cherrig llaid Hyd at 400m
Trefawr Cerrig llaid Hyd at 200m
Crychan Tywodfeini Hyd at 170m
Bronydd Cerrig llaid Hyd at 275m
Chwefri Cerrig llaid a thywodfeini Hyd at 750m
Tŷ Garth Cerrig llaid a thywodfeini Hyd at 90m
Tywodfaen Cwm Clyd Tywodfeini Hyd at 10m

Ewch i’r Llinell Amser Silwraidd.

Beth sydd mewn enw?

Daw enw’r cyfnod daearegol hwn o lwyth y Silwriaid y daeth y Rhufeiniad a oedd yn gorchfygu ar eu traws yn byw mewn rhannau mawr o dde Cymru. Mae enw Llanymddyfri hefyd yn gyfarwydd i ddaearegwyr o amgylch y byd gan fod y dref wedi rhoi ei henw i greigiau Silwraidd o oes benodol ym mhedwar ban byd.

mae’r rhan hon o’r wefan yn parhau i gael ei datblygu – bydd modd gweld ffotograff o Chwarel Las yng Ngheunant Sawdde, yn dangos crychnodau, yma yn fuan