Mythau a chwedlau

Mae gan y Fforest Fawr doreth o straeon – mae rhai’n hen a rhai’n newydd. Dyma ddetholiad o rai o’r rhai mwy adnabyddus.

Morwyn y Llyn

Mae llawer o amrywiaethau ar chwedl y forwyn sy’n gysylltiedig yn agos gyda Llyn y Fan Fach.  Gallwch chi ddarllen un ohonynt yma.

Meddygon Myddfai

Mae’r chwedl hon o’r 13eg ganrif wedi’i rhwymo gyda chwedl Morwyn y Llyn. Mab hynaf Morwyn y Llyn oedd Rhiwallon. Roedd ef a’i feibion yn feddygon i Arglwydd Dinefwr. Mae llawysgrifau meddygol Cymreig o’r cyfnod hwn yn rhoi manylion am feddyginiaethau meddygol a llysieuol a gafodd eu defnyddio gan Rhiwallon a’i feibion.

Roedd eu disgynyddion yn deulu o feddygon gwerin yn byw yn ardal Myddfai ac mae enw lleoedd megis Pant y Meddygon yn cofnodi eu presenoldeb.

Sgwd yr Eira

Ar Afon Hepste mae rhaeadr sy’n edrych fel ‘cwymp o eira’ yn twmblo dros y dibyn i’r pwll islaw. Cafodd llwybr y tu ôl i’r dŵr sy’n cwympo ei ddefnyddio’n flaenorol gan heusorion yn symud eu defaid a’u gwartheg o un ochr yr afon i’r llall.

Mae chwedlau’n ymlynu i’r man – gelwir y ceunant caregog islaw’n Devil’s Glen a thybir bod pob math o bobl arallfydol gan gynnwys ysbrydion a’r tylwyth teg yn byw yno.

Elidyr a Sgwd Gwladus

Mae toreth o chwedlau yn llenyddiaeth Cymru am bobl y tylwyth teg sy’n byw mewn ‘byd arall’ y gellir mynd iddo o’n byd ni drwy gyntedd tanddaearol.  Mae’r llain o Galchfaen Carbonifferaidd sy’n rhedeg trwy’r Geoparc yn cynnwys llu o gynteddau o’r fath a bu llawer o’r rhain yn gysylltiedig â chwedlau o’r fath dros y blynyddoedd.  Mae chwedl Elidyr yn un sy’n parhau.

Culhwch ac Olwen: Twrch Trwyth

Mae’n bosibl bod Cwm Twrch yn deillio o’r “Twrch Trwyth”, baedd gwyllt chwedlonol o chwedlau Arthuraidd y deuir o hyd iddo yn chwedlau hynafol y Mabinogion yn llenyddiaeth Gymraeg gynnar.  Mae nifer o amrywiaethau o’r chwedl hon. Mae Culhwch yn dymuno priodi Olwen ond mae ei thad Ysbyddaden Bencawr yn amharod i ganiatáu i’w ferch briodi oherwydd ei fod yn gwybod pan fydd hi’n priodi, bydd ef yn marw. Mae Ysbyddaden yn gosod nifer o dasgau sydd bron yn amhosibl ar gyfer Culhwch ond mae’n eu cyflawni, un ar y tro, gyda chymorth Arthur a’i farchogion.

Mae’r Twrch Trwyth yn croesi Môr Iwerddon gan achosi cwymp daear ym Mhorth Clais yn Sir Benfro ac mae’n creu hafoc trwy dde Cymru cyn mynd i mewn i Fôr Hafren ger Cas-gwent.

Un o dasgau Arthur oedd cael gwared â’r haid o faeddod gwyllt a oedd yn brawychu pobl gorllewin Bannau Brycheiniog. Cwrsodd y baeddod o Ddyfed i’r dwyrain tuag at Bowys. Ar y Mynydd Du cododd garreg fawr a’i hyrddio tuag at yr haid, gan ladd arweinydd yr haid ar ymyl cwm ger Ceunant Craig-y-Fran. Rholiodd corff mawr y baedd i lawr y cwm ac i mewn i’r afon, sydd bellach â’r enw Afon Twrch.

Mae’r garreg fawr, o’r enw Carreg Fryn Fras ar y mynydd o hyd.  Mae gan ddaearegwyr esboniad arall am ei tharddiad.  Mae’r afon yn ffurfio ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Phowys, yn nheyrnasoedd hynafol Deheubarth a Brycheiniog. Mae golygfa arall yn digwydd yn Llwch Tawe a elwir yn Llyn y Fan Fawr erbyn hyn.

Chwedl Nedd

Mae Cwm Nedd yn cadw rhywfaint o’i swyn cynharach o hyd. Sefydlodd y Rhufeiniaid garsiwn yn Nidvm ble mae tref fodern Castell-nedd yn sefyll heddiw.

Rhyfelwyr Cwsg Craig y Ddinas

Honnir, ar gyfer nifer o leoedd yng Nghymru ac yn wir ymhellach i ffwrdd, bod Arthur a’i ryfelwyr yn cysgu mewn ogof yn barod i gael eu galw i ymladd.  Un o’r mannau hyn yw Craig y Ddinas yng Nglyn-nedd uchaf ar ymyl deheuol y Geoparc. Darllenwch y stori honno yma.

Y Cerbydwr Meddw

Mae chwedl fwy modern – un â rhybudd – yn gysylltiedig ag arysgrif ar gofadail ger yr A40 hanner ffordd rhwng Llanymddyfri a Phontsenni.