Mae mynyddoedd gwyllt a chymoedd cudd y Geoparc wedi deillio o bron i 500 miliwn o flynyddoedd o hanes y Ddaear. Mae’r ardal swynol hon yn cynnwys tystiolaeth o foroedd hynafol, adeiladu mynyddoedd a newid yn lefel y môr a newid yn yr hinsawdd wedi’u gwasgaru ar draws tirwedd a ffurfiwyd gan yr Oes Iâ ddiwethaf.
Fe welwch raeadrau gwych, ogofâu anhygoel a’r mynyddoedd uchaf yn ne Prydain.
Mae haenen ar ôl haenen o greigiau’n ffurfio Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr – mae’r creigiau hynaf islaw ac mae’r rhai iau uwchlaw. Gan fod pob un o’r haenau hyn wedi gogwyddo tua’r de, ac yna eu plaenio, gallwn weld croestoriad ohonynt wrth i ni deithio drwy’r dirwedd.
Mae hefyd yn werth chweil cofio bod rhywfaint o’r gwaith cynnar pwysig o ran datblygu daeareg fel gwyddor wedi’i wneud yn yr ardal hon. Mae enwau dau israniad mawr o ran amser daearegol – sef y cyfnod Silwraidd a’r cyfnod Ordofigaidd – yn adlewyrchu’r mapio arloesol a wnaeth daearegwyr o’r 19eg ganrif megis Charles Lapworth a Sir Roderick Impey Murchison yng ngogledd-orllewin y Geoparc. Cawsant yr enwau o rai llwythau lleol, y Silwriaid a’r Ordofigiaid y gwnaeth y Rhufeiniaid gystadlu gyda nhw i reoli’r diriogaeth.