Adroddwyd y stori hon a’i hailadrodd droeon. Mae’n canolbwyntio ar Lyn y Fan Fach sy’n swatio o dan y Mynydd Du ac ar leoliadau yn y tiroedd fferm islaw, y gellir ei hadnabod yn rhwydd hyd heddiw.
Amser maith yn ôl roedd gweddw a oedd yn byw ym Mlaensawdde. Roedd yn gobeithio’n arw y byddai ei mab yn peri i’r teulu barhau ond er siom fawr iddi nid oedd wedi ei ddyweddïo ag unrhyw ferch.
Un diwrnod roedd yn gwylio’i braidd ger Llyn y Fan Fach o dan y Mynydd Du a gwelodd fenyw hardd yn eistedd ar garreg ger y lan. Wrth weld ei harddwch, cwympodd mewn cariad â hi ar unwaith ond gan ei fod yn fugail syml, baglodd dros ei eiriau. Fel arwydd o’i serch, cynigiodd ei fara barlys iddi. Fodd bynnag, fe’i gwrthododd, gan ddweud:
Mae dy fara wedi’i bobi’n galed,
Ni fyddaf yn dy gymryd di
Yn sydyn crychodd awel y dŵr ac roedd hi wedi mynd. Aeth adref mewn penbleth a dywedodd y stori hynod hon wrth ei fam. Cofiodd ei fam bacio bara heb ei bobi rhag ofn iddo gwrdd â hi eto.
Welodd e mohoni tan yn hwyrach y diwrnod wedyn. Fel o’r blaen roedd hi’n eistedd ar garreg ger ymyl y dŵr. Unwaith eto cynigiodd ei fara iddi ond unwaith eto gwrthododd hi, gan ddweud:
Mae dy fara heb ei bobi,
Ni fyddaf yn dy gymryd di.
Aeth tuag ati ond wrth iddo wneud diflannodd ymhlith adlewyrchiadau disglair arwyneb y llyn. Y noson honno aeth adref wedi’i drallodi. Roedd ei fam yn fenyw ddoeth a chynghorodd ef i fod yn amyneddgar, a pharatôdd hi fara wedi’i bobi’n rhannol iddo gynnig iddi.
Er iddo ddychwelyd i’r llyn cyn y wawr y diwrnod wedyn roedd rhaid iddo aros tan ar ôl iddi nosi cyn iddo ei gweld am y trydydd tro. Roedd ar fin gadael mewn anobaith pan ymddangosodd yng ngolau’r lleuad. Y tro hwn derbyniodd y bara a oedd wedi’i bobi’n rhannol, gan ddweud:
Byddaf yn eiddo i ti,
ond os gwnei di fy nharo dair gwaith heb reswm,
Byddaf yn dychwelyd i’r llyn am byth
Wrth gwrs roedd wrth ei fodd – ni allai amgyffred â’r syniad o’i tharo byth ac edrychodd ymlaen at oes i’w threulio gyda’r ferch hardd hon. Priododd y pâr a symud i lawr y mynydd i Esgair Llaethdy ger Myddfai.
Yn y gwanwyn ganed eu plentyn cyntaf. Yn fuan wedyn, roedd y teulu hapus yn mynd i fynychu bedydd, ond wrth weld bod ei wraig yn araf yn gadael y tŷ, patiodd ef hi’n dyner ar ei chefn i’w hannog. Nid oedd bwriad o’i niweidio, ni ddefnyddiwyd unrhyw rym, ond serch hynny dyna oedd yr ergyd direswm cyntaf.
Aeth popeth yn iawn gyda’r pâr a’i mab newydd. Yn wir erbyn y gwanwyn nesaf roedd plentyn arall ar y ffordd. Ganed eu hail fab yr haf hwnnw. Ychydig o amser wedyn, aethant i briodas cefnder a llefodd y ferch. Ac yntau’n dymuno ei chysuro, tapiodd ei braich yn dyner. Eto ni ddefnyddiwyd unrhyw rym, nid oedd bwriad o’i niweidio ond dyma oedd yr ail ergyd direswm.
Cafodd fraw o feddwl pa mor ddifeddwl a fuodd a phenderfynodd peidio â’i tharo’n ddireswm am y trydydd tro. Aeth amser heibio a ganed trydydd mab iddynt. Rhai misoedd wedyn, aeth y teulu i angladd ac aethant i mewn i’r eglwys i alaru am eu colled. Fodd bynnag, chwarddodd y ferch yn uchel mewn ffordd a barodd i’w gŵr anesmwytho oherwydd ei fod yn pryderu bod chwerthin yn amhriodol. Rhoddodd slap dyner iddi ar ei boch. Dyma, wrth gwrs, oedd y trydydd ergyd direswm.
Ar hynny, rhuthrodd hi allan o’r eglwys ac i’r glaw. Fe’i dilynodd drwy’r ffrydlifiau ond ni allai ei dal. Aethant heibio Esgair Llaethdy a heibio Blaensawdde. Er iddo ei dilyn mor gyflym ag y gallai, ni allai ei chyrraedd cyn iddi ddiflannu am y tro olaf i ddyfroedd Llyn y Fan Fach.
Chwiliodd yn y dyfroedd am awr ar ôl awr ond bu’n ofer. Gwireddwyd ei phroffwydo. Nid oedd yn eiddo iddo bellach. Roedd wedi’i drallodi’n fawr ond yn y pen draw aeth adref.
Cysurodd ei hun gyda’i dri mab. Gwnaethant dyfu i fyny’n gryf ac yn ddoeth. Dewisodd pob un ohonynt wella fel eu cenhadaeth mewn bywyd a nhw oedd y cyntaf mewn cyfres hir o Feddygon Myddfai.