Yr Oesoedd Canol ac wedyn

Yn yr Oesoedd Canol a elwir fel arall yn Gyfnod Canoloesol roedd amaethyddiaeth yn aros fel y gweithgaredd allweddol yn yr ardal.

Dirywiodd hinsawdd Cymru o tua 1300 OC pan gafwyd cyfnod gwlypach yn cael ei ddilyn gan yr ‘Oes Iâ Fach’ o tua 1550 OC at 1850 OC.

Roedd gaeafau oerach y cyfnod hwn mae’n debyg yn torri ar bori drwy gydol y flwyddyn, er bod defnyddio rhostir yr ucheldir yn yr haf mae’n debyg wedi parhau.

Mae’r Geoparc yn torri ar draws y ffin rhwng dwy deyrnas Gymreig ganoloesol – sef Deheubarth (yn llythrennol ‘y darn deheuol’), i’r gorllewin o Afon Twrch a Brycheiniog i’r dwyrain. Roedd Statud Rhuddlan ym 1284 yn rhannu Deheubarth yn siroedd hanesyddol Sir Benfro, Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin, ac mae’r olaf yn ffurfio rhan orllewinol y Geoparc.