Canolfan y Mynydd Du a Chwareli’r Mynydd Du
Rhowch gychwyn da i’r diwrnod drwy gael diod neu frecwast llawn yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman yna dilynwch ffordd y mynydd i hen gyfadeilad chwarel y Mynydd Du.
cialis generiqudiod neu frecwast yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman, cyn anelu i fyny ffordd y mynydd at hen adeiliadau Chwareli’r Mynydd Du.
Yno, gellwch fwynhau golygfeydd i’r gorllewin at Sir Benfro, at Fôr Hafren i’r de, ac at Bumlumon i’r gogledd ar ddiwrnod clir. Bu calchfaen a chraig a thywod silica’n cael eu cloddio’n llafurus yma hyd bumdegau’r ganrif ddiwethaf. Gallech ddod ar draws cromlechi o’r Oes Efydd ar Ffordd y Bannau i’r dwyrain a’r gorllewin, neu gallech fwynhau mwy o gysgod yn y dyffrynnoedd coediog ar lethrau deheuol y Mynydd Du.
Os oes gennych awr neu lai:
- Gyrrwch i fyny ffordd y mynydd gan fwynhau’r golygfeydd, ac archwilio adeiladau Chwarelyddol y Mynydd Du.
- Bwyd a diod ar gael yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman.
Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):
- Dilynwch lwybr y ‘Ceunentydd Creigiog’ o’r Ganolfan.
- Archwiliwch ddyffryn cysgodol Henllys o Ystradowen gan ddefnyddio’r Geolwybr neu llwybr llafar. Beth am wneud Caffi Henllys yn fan cychwyn ar gyfer boreau yn ystod yr wythnos/dydd Sadwrn?
- Dilynwch y llwybr ddarn ‘O Gwm i Gwm’ gan gychwyn o Garnant yn Nyffryn Aman.
Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):
- Archwiliwch ddarn o Ffordd y Bannau o Chwareli’r Mynydd Du.
- Dilynwch gamau’r Twrch Trwyth, baedd gwyllt chwedlonol, gan ymweld â mannau y cyeirir atyny yn y Mabinogion. Chwiliwch am becyn llwybrau Dyffryn Aman yn y ganolfan.