T TH

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

T

Teilfeini / Tilestones

Tywodfaen tenau yn llawn mica a ddyddodwyd yn gynnar yn ystod Epoc Pridoli’r Cyfnod Silwraidd Uchaf. Mae’r ffurfiant hwn hefyd yn diffinio rhan isaf yr Hen Dywodfaen Coch. Fel yr awgryma’r enw, arferid cloddio’r teilfeini mewn sawl man ar hyd eu brig a’u defnyddio i doi tai ac ysguboriau.

Telychaidd / Telychian

Un o unedau stratigraffig y Cyfnod Silwraidd Isaf pan gafodd cerrig llaid Ffurfiant Cerrig eu dyddodi. Gweler siart amser Silwraidd.

Tertaidd / Tertiary

Yr hen enw ar y cyfnod daearegol a barhaodd am 63 miliwn o flynyddoedd rhwng 65 a 2.6 (neu 1.8 yn ôl rhai) o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’r cyfnodau Palaeogen a Neogen wedi disodli’r Tertaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

til / till

Cymysgedd annidoledig o glai a cherrig amrywiol eu maint a gaiff ei waddodi pan fo rhewlif yn dadmer. Adwaenir til hefyd fel clog-glai.

tiriogaedd gramennol / terrane

Rhan o gramen y Ddaear, y mae ei chreigiau’n rhannu hanes daearegol cyffredin. Mae Ynysoedd Prydain yn cynnwys tiriogaethau niferus, amryw ohonynt bellach wedi cloi ynghyd i ffurfio Cymru’r oes fodern. Mae’r rhan fwyaf o’r Geoparc yn eistedd ar Diriogaeth gramennol Dinlle Gwrygon. Mae’r diriogaeth hon a thiriogaethau cyfagos yn cynnwys ‘Tiriogaeth Gyfansawdd Afalon’.

Tiriogaedd gramennol Dinlle Gwrygon / Wrekin Terrane

Mae tiriogaeth yn rhan o gramen y Ddaear, y mae ei chreigiau’n rhannu hanes daearegol cyffredin. Mae prif ffawtiau streic-rwyg yn ffinio’r tiriogaethau. Mae Tiriogaeth Dinlle Gwrygon yn ardal drionglog at ei gilydd, y mae ei chorneli yn Ninbych-y-pysgod, Stoke-on-Trent a Bryste. Fe’i diffinnir gan ‘Linelliad Moelfryn’ yn y dwyrain, y ‘Ffrynt Fariscaidd’ i’r de a ‘System Ffawtiau’r Gororau’ (gweler uchod) yn y gogledd-orllewin. Mae’r rhan fwyaf o Geoparc Fforest Fawr y tu mewn i’r ffiniau hyn.

Triasig / Triassic

Cyfnod daearegol a barhaodd am 53 miliwn o flynyddoedd rhwng 252 a 199 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

tywod silica / silica rock

Ffurf o’r garreg silica y mae’n hawdd ei chloddio (gweler carreg silica) pan fydd prosesau naturiol wedi darnio’r garreg wreiddiol.

tywodfaen / sandstone

Craig waddod yn cynnwys gronynnau o dywod.

Tywodfaen Cumbriense / Cumbriense Sandstone

Tywodfaen tenau, sy’n amlwg iawn yn ardal Ystradfellte, a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd Uchaf.

Tywodfaen Deuddeg Troedfedd / Twelve Foot Sandstone

Un gwely arbennig o dywodfaen a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd. Mae’n amlwg yn nyffrynnoedd afonydd Mellte a Hepste.

Tywodfaen Dil Mêl / Honeycombed Sandstone

Calchfaen tywodlyd a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd.  Fe’i darganfyddir o dan Oolit Penderyn ac uwchben Calchfaen Dowlais. Mae’r enw’n cyfeirio at y ffordd nodweddiadol y mae tywydd yn effeithio arno.

Tywodfaen Pennant / Pennant Sandstone

Yr enw ar gyfres o wahanol dywodfeini trwchus a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd. Maent yn ffurfio’r llwyfandir sydd wedi’i ddyrannu gan gymoedd dwfn maes glo de Cymru i’r de o Geoparc Fforest Fawr.

Tywodfaen Twrch / Twrch Sandstone

Enw newydd y ‘Grut Gwaelodol’, y gwely o dywodfaen a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd.

TH

Dim termau