Oes y Cerrig

Y Cyfnod Palaeolithig (neu Hen Oes y Cerrig)

Tua 250,000 – 8000 o flynyddoedd yn ôl

Mae hi’n debygol dros ben fod dyn yn byw yn yr ardal cyn yr Oes Iâ ddiwethaf ond mae symudiad yr iâ wedi dileu’r holl dystiolaeth i bob diben.

Y Cyfnod Mesolithig (neu Oes Ganol y Cerrig)

Tua 8000-6000 o flynyddoedd yn ôl

Roedd Oes Ganol y Cerrig yn cyd-daro â chyfnod hinsawdd yr ‘Iwerydd’ a oedd at ei gilydd yn gynnes a gwlyb.

Arfau fflint ar chwâl mewn mawnogydd sy’n cael eu herydu sy’n cynnig y dystiolaeth orau i ni am ddyn yn preswylio yn yr ardal hon yng nghyfnod Oes Ganol y Cerrig. Byddai’r bobl hyn wedi bod yn ‘helwyr-gasglwyr’ er bod llwch siarcol yn y mawn yn awgrymu eu bod yn defnyddio tân i glirio’r coetir a’r prysgwydd i sicrhau glaswelltir i anifeiliaid pori yr oeddent efallai yn eu hela. Byddai amrywiaeth o blanhigion bwytadwy hefyd ar eu hennill o’r arferiad hwn.

Safleoedd Mesolithig

  • Waen Fignen-felen
    Cyfeirnod grid OS – SN 823183
    Mae’n hysbys fod llannerch agored yn Waen Fignen-felen rhwng 8000 a 6000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y fan yn goetir unwaith, yna’n brysgoed cyll a bellach yn fawnog.
    Fe’i gwelir orau oddi ar y llwybr ceffylau cyhoeddus sy’n dringo o Lyntawe ac yn mynd ar hyd ymyl ddeheuol y safle.

Yn disgwyl llun

Y Cyfnod Neolithig (neu Oes Newydd y Cerrig)

Tua 6000-4000 (2500) o flynyddoedd yn ôl

Yn ystod y cyfnod Neolithig gwelwyd cyflwyno amaethyddiaeth, parhau i ddefnyddio arfau cerrig, ymddangosiad cnydau a dofi anifeiliaid. Cliriwyd llawer o’r ‘coed gwyllt’ a oedd dros y wlad ar ôl yr Oes Iâ gan y ffermwyr cyntaf. Mae samplau creiddiau mawn yn dangos gostyngiad mewn paill coed llwyfen. Dechreuodd y blanced o fawn sy’n gorchuddio llawer o rannau ucheldir Geoparc y Fforest Fawr ymledu yn ystod y cyfnod Mesolithig.

Mae archaeolegwyr yn adnabod beddrodau siambr yn yr ardal fel tystiolaeth o’r cyfnod Neolithig cynnar a chanol. Nodweddir y cyfnod hefyd gan ymddangosiad cofebau mewn caeau yn y dirwedd. Mae’r rhain yn cynnwys cylchoedd cerrig a charneddau a dechreuodd cytiau petryal ymddangos a chysylltir y rhain yn aml â chrochenwaith, arfau fflint a siarcol.

Safleoedd Neolithig

  • Saith Maen
    Cyfeirnod grid OS – SN 833154
    Mae’r safle hwn a all berthyn i ddiwedd yr oes Neolithig ar ‘dir mynediad’ i’r gorllewin o Gribarth, Glyntawe.
  • Carnau Gwynion
    Cyfeirnod grid OS – SN 922143
    Safle defodol mewn cylch 1km i’r gogledd orllewin o Ystradfellte. Mae ar dir mynediad y gellir ei gyrraedd drwy hawl dramwy gyhoeddus o’r pentref.
    Yn disgwyl llun