Agorwch unrhyw fap o Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr ac mae’r enwau lleol nodedig yn neidio allan. I unrhyw un sydd â dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg, mae’r enwau hyn yn ychwanegu haen arall o fanylder i ddealltwriaeth o’r dirwedd.
Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n llawn termau am nodweddion naturiol – wedi’r cwbl mae gan Gymru lawer o amrywiaeth yn ei chefn gwlad. Er enghraifft, mae llawer o wahanol dermau ar gyfer ‘hill’:
- bryn / fryn (bank)
- tyle (rise / slope)
- moel / foel (‘bald’ rounded hill)
- ban / fan / *bannau (peak/s)
- rhiw (slope)
- mynydd / fynydd / mynyddoedd (mountain / hill)
a ‘cliff’ neu ‘rock’:
- tarren / darren (rocky edge)
- craig / graig *creigiau (cliff/s)
- carreg / garreg *cerrig (rock/s)
- maen / faen (stone)
ac yn wir ar gyfer tir gwlyb!
- gwaun/waun (moor)
- mign/fign (bog)
- pant (hollow – often wet!)
Ar wahân i ffurfiau arferol geiriau (wedi’u hamlygu), dangosir treigladau cyffredin ac mae * yn dangos sillafiad ar gyfer defnydd y lluosog.
Gall pob un o’r rhain ddweud rhywbeth am natur y tir cyn ein bod yn ei weld hyd yn oed.
Hefyd mae lliwiau’n digwydd yn aml mewn enwau lleoedd – mae’n bosibl eu bod yn cyfeirio at y cerrig islaw neu fel arall at liw’r llystyfiant uwchben:
- gwyn / gwen / *wynion (white)
- du / ddu / *duon (black)
- melyn (yellow)
- llwyd (grey)
- coch / goch / *cochion (red)
- glas / las (blue / green)
- arian (silver)
ac wydd:.
- onnen / *onnau (ash)
- derwen / *derw / deri (oak)
- bedwen / fedwen / *bedw / fedw (birch)
- celynnen / gelynnen / *celyn (holly)
- gwernen / wernen / *wern (alder)
- cerddinen / gerddinen / *cerddin (rowan)