Cloddfeydd Silica

Roedd De Cymru yn chwaraewr o bwys mewn oes ddiwydiannol newydd a newidiodd yr oes ac roedd yr ardal sydd bellach yn ffurfio’r Geoparc yn chwarae rhan arwyddocaol yn hanes diwydiannol y rhanbarth. Cynnyrch allweddol o’r ardal oedd briciau silica a ddefnyddid yn y diwydiannau copr, haearn a dur ond a oedd yn cael eu hallforio hefyd ar draws y byd ac yn cyfrannu at ddatblygiad diwydiant mewn gwledydd eraill.

Cloddio’r graig

Darganfu’r diwydianwyr cynnar fod dyddodion penodol oedd fwy neu lai yn silica pur (SiO2) yn yr ardal yn rhoi’r cynhwysion delfrydol ar gyfer cynhyrchu briciau tân ar gyfer odynnau a ffwrneisi. Ffynhonnell y silica pur hwn yw’r cwartsit Grutfaen Gwaelodol a geir yn helaeth ar draws rhannau deheuol y Geoparc.

Câi’r cwartsit Grutfaen Gwaelodol ei gloddio yng Nghraig y Ddinas yn ardal Pontneddfechan o ddiwedd y 16eg ganrif tan 1964.  Roedd cloddfeydd llai yn gweithio yng ngheunant Nedd Fechan hefyd. Câi’r briciau tân a gynhyrchid o’r graig hon eu hallforio ar hyd a lled y byd a darlunir pwysigrwydd y diwydiant ledled Ewrop gan y ffaith mai ‘Dinas’ yw’r enw ar friciau tân yn Rwsia hyd heddiw.

Cloddio’r tywod

Ceid tywod Silica o’r cwartsit Grutfaen Gwaelodol chwâl ger Penwyllt ym mhen uchaf Cwm Tawe a defnyddid ef i gynhyrchu briciau tân gwrthsafol ar gyfer y diwydiannau mwyndoddi. Cludid y tywod silica o’r ffynhonnell ym Mhwll Byfre ar hyd tramffyrdd i waith briciau ym Mhenwyllt.  Roedd ffynhonnell arall o dywod silica yn cael ei gweithio yng Nghribarth gerllaw a tuag at ben gorllewinol y Mynydd Du roedd nifer o ddyddodion o’r fath, megis y rhai ger Chwarel  Herbert oddi ar y Ffordd Fynydd i’r gogledd o Frynaman a rhwng Cefn Carn Fadog a Foel Fraith. Cafodd pob un o’r rhain eu gweithio ar ryw adeg neu’i gilydd.

Symud y deunyddiau

Roedd tramffyrdd a rheilffyrdd o lawer o’r cloddfeydd hyn yn cysylltu â Chamlas Abertawe a oedd yn mynd cyn belled â Glyn-nedd a Chamlas Castell-nedd i Lyn-nedd gan sicrhau cludiant parod i bwerdai diwydiannol Abertawe a’r cymoedd.

Mae haneswyr yn dyddio dechrau’r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain i tua 1760 pan ddaeth cludiant, peiriannau a chynhyrchu pwer at ei gilydd i ganiatáu datblygu diwydiannol ar raddfa fawr. Mae Tramffordd Fforest Brycheiniog a gysylltai ardal y Geoparc â Chamlas Abertawe yn bwysig yn hanes cludiant gan ei bod yn un o’r enghreifftiau cynharaf o rwydwaith drafnidiaeth integredig yn cael ei adeiladu tua 1780 ac yn llenwi’r cyfnod o esblygu cyflym rhwng rheilffyrdd gyda cheffylau a llinellau gyda locomotifau yn tynnu.