Mwynhau

Croeso i’r Geoparc.

 

O lawr y cwm i gopa’r mynydd a phopeth sydd rhyngddynt; atyniad mwyaf y Geoparc yw’r dirwedd ei hun.

Gallwch archwilio hyn gyda chymorth map neu dewiswch ganllaw llwybr neu daflen. Dewis arall yw gwrando a lawrlwytho podlediad neu ddilyn llwybr llafar.

Lansiwyd pedwar Geodaith yn 2021 – edrychwch ar lwybrau ym Mynydd Illtud, Garn Goch, Penwyllt a Cribarth trwy’r ap ffôn symudol.

Welwch chi canllaw i archwilio y Geoparc.

Ar y llaw arall efallai y byddai’n well gennych ymuno â thaith dywysedig – yn ystod Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr er enghraifft (ar ddiwedd Mai/dechrau Mehefin bob blwyddyn) – neu dewch i ddigwyddiad arall sy’n dathlu treftadaeth naturiol Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr.  Dechreuwch drwy edrych ar ein tudalennau Beth sy’n digwydd.

Mae gwybodaeth gyfyngedig hefyd (ac o fewn oriau cyfyngedig) ar gael yn y canlynol:

Gall canolfannau hyn eich helpu mwynhau eich ymweliad. Mae map isod yn ddangos y canolfannau ble dych chi’n gallu ffindio gwybodaeth yn yr ardal. Mae rhai yn dynmhorol felly edrychwch yma yn gyntaf.

Mae ‘r hen Ganolfan y Sgydau ym Mhontneddfechan a Chanolfan Groeso Aberhonddu bellach wedi cau.

Canolfannau ymwelwyr a wybodaeth yn y Geoparc

Canolfannau ymwelwyr a wybodaeth yn y Geoparc (cliciwch i wneud map yn fwy)

 


Mae llawer o leoedd o fewn ac o amgylch y Geoparc sy’n ateb gofynion ymwelwyr. Edrychwch arnynt – rydych yn siŵr o ddarganfod rhai a fydd yn cynnig yr union beth rydych yn chwilio amdano – boed hynny yn llety, bwyd a diod, ymlacio neu antur!  Heblaw am ei gwestai, mae’r ardal yn cael ei gwasanaethu’n dda gan lety hunanddarpar, llety byncws a llond dwrn o hosteli ieuenctid y gall fod yn ddefnyddiol i grwpiau. Ewch at Wefan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog i ddarganfod mwy.

  • Gall ymwelwyr ag anhawster symudedd gael cymorth ychwanegol ar yr atyniadau gyda mynediad haws.
  • Beth am ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ymweld â’r lleoedd hyn?  Edrychwch ar Traveline Cymru am amserlenni bysys a threnau, arosfannau aros a chynllunio teithiau. Mae gwasanaeth bws T4 (Caerdydd-Merthyr Tudful-Aberhonddu-Y Drenewydd) yn ddefnyddiol ar yfer Garwnant a Storey Arms tra bod y T6 (Abertawe-Castell-Ystradgynlais-Aberhonddu) yn defnyddiol ar gyfer Parc Gwledig Craig-y-nos.

Mwy i ddod!

Erbyn hyn mae yna griw cynyddol o Lysgenhadon Geoparc y Fforest Fawr – busnesau twristiaeth sydd llawn brwdfrydedd am y Geoparc, ei dirwedd a’i ddiwylliant ac sydd wedi’u hyfforddi i helpu’r ymwelydd i gael y gorau ohono.