Bywyd gwyllt a chynefinoedd

Mae creigiau amrywiol y Geoparc a datblygiad cymhleth ei dirwedd wedi arwain at doreth o wahanol gynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae’r rhain yn amrywio o lwyfandiroedd y bryniau Hen Dywodfaen Coch i ceunentydd calchfaen a cherrig llaid cysgodol y de, sy’n aml wedi’u gorchuddio gan coetir. Mae pob cyfuniad o greigwely, pridd a’r hinsawdd leol yn achosi cynefinoedd sydd â’u cymeriad unigryw eu hunain.

Mae dolydd a phorfeydd yn agwedd arall ar dirwedd Fforest Fawr, ac mae eu rhinweddau arbennig yn codi o gydadwaith cymhleth rhwng dyn a natur.

Mae dŵr wedi chwarae rhan bwysig yn esblygiad y dirwedd hon ac mae’n aros yn ganolbwynt heddiw, i ni ac i’r bywyd gwyllt. Mae afonydd mwyaf y Geoparc yn arbennig o bwysig, a rhoddir amddiffyniad arbennig i’r Wysg a’r rhan fwyaf o’i hisafonydd, er enghraifft.

Mae dŵr wedi cynhyrchu nifer o systemau ogofâu o dan y Geoparc a gafodd eu harchwilio gan ogofwyr at bwrpasau hamdden yn ogystal ag ar gyfer eu diddordeb daearegol a biolegol.

Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau cyflwyno eich arsylwadau eich hun ar fywyd gwyllt a wnaed yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n cynnwys yr ardal.  Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth yn un o bedwar sy’n cynnwys Cymru gyfan a bydd yn adnodd sy’n fwyfwy pwysig yn gysylltiedig â fflora a ffawna’r Geoparc.