Mapiau Daearegol

Mae Arolwg Daearegol Prydain yn cyhoeddi nifer o fapiau ar wahanol raddfeydd sy’n cynnwys Geoparc y Fforest Fawr.

Map Geoparc

Fforest Fawr: Archwilio tirwedd Geoparc Byd-eang

Mae daeareg ar gyfer y Geoparc  cyfan yn cael ei gynnwys ar y map deniadol hwn ac mae’r map yn llawn gwybodaeth. Mae’r map arbennig hwn sydd wedi’i symleiddio ar raddfa 1:50 000 yn dangos daeareg y craigwelyau ar gyfer y cyfan o Geoparc y Fforest Fawr ynghyd â dangos daeareg arwynebol ar raddfa 1: 100 000 a gyhoeddwyd gan y BGS yn 2014. Mae’r map hefyd yn ymgorffori diweddariadau i’r mapiau safonol sydd wedi’u cyhoeddi ac sy’n cael eu disgrifio isod.

Gallwch osod y map yn hwylus yn eich poced wrth i chi’n crwydro’r ardal neu fe allwch osod y map ar y wal. Mae’r map ar gael am £6.95 o ganolfannau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, siop ar-lein y BBNPA neu siop ar-lein y BGS. Mae’r map wedi’i osod mewn waled blastig i amddiffyn y map. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n dangos ogofau, rhaeadrau a chwareli’r ardal.

 

Mapiau graddfa 1:50,000

Mae angen pedair dalen o’r gyfres ‘Cymru a Lloegr’ o fapiau daearegol i gynnwys y Geoparc i gyd.

  • No.212 Llandovery (a gyhoeddwyd yn 2008)
  • No.213 Brecon  (a gyhoeddwyd yn 2005)
  • No.230 Ammanford (mae 2 fersiwn ar gael – gweler isod)  (a gyhoeddwyd yn 1977)
  • No.231 Merthyr Tydfil (mae 2 fersiwn ar gael – gweler isod)  (a gyhoeddwyd yn 1979)

Mae’r rhain yn ymddangos mewn cloriau glas ac maent ar gael am £12.00 yr un.  Mae dalennau 212 a 213 hefyd ar gael fel rhannau o becynnau sy’n cynnwys esboniadau byr o’r ddaeareg leol. Mae’r ddau becyn yn costio £18.00

Mae dalennau 230 a 231 ar gael fel fersiynau ‘Solid with drift’ sy’n dangos y ddaeareg greigwely ac fel fersiynau ‘solid and drift’ sydd hefyd yn dangos y dyddodion arwynebol megis dyddodion mawn, llifwaddod a dyddodion rhewlifol.  Mae ‘astudiaeth’ sy’n disgrifio’r ardal a gwmpasir gan ddalen 231 hefyd ar gael.

Mae’n bosib gweld y Parc Cenedlaethol cyfan drwy ddefnyddio taflenni rhif 197 ‘Hay on Wye’, 214 ‘Talgarth’ a 232 ‘Abergavenny’.

Mae’r cyfan o’r mapiau hyn a mwy i’w gweld ar-lein drwy ddefnyddio porthol ‘ Maps Portal’ ar wefan BGS. Mae’r ‘Geology of Britain Viewer hefyd ar gael ar wefan BGS lle mae’n bosib chwyddo’r mapiau daearegol hyn i arddangos y wybodaeth o’r arolwg diweddaraf. Cliciwch ar y mapiau i dderbyn y wybodaeth ddaearegol ddiweddaraf, oed y creigiau yn ogystal â dadansoddiad daearegol.

Mapiau graddfa 1:250,000

‘Rocks of Wales / Creigiau Cymru’

Cafodd y ddalen ddwyieithog ‘Rocks of Wales / Creigiau Cymru’ sy’n dangos daeareg greigwely’r wlad gyfan ei chyhoeddi ym 1994.  Mae’n ymddangos mewn clawr gwyrdd ac mae ar gael am £12.00.

Map Hydroddaearegol o dde Cymru

Cafodd Map Hydroddaearegol o dde Cymru ar raddfa 1:250,000 sy’n cynnwys agweddau o argaeledd, ecsploetio ac ansawdd dŵr daear ei gyhoeddi hefyd gan Arolwg Daearegol Prydain ym 1986.  Mae ar gael o Arolwg Daearegol Prydain am gost o £12.50 ar ffurf wastad neu wedi’i phlygu.

Ewch i siop fapiau Arolwg Daearegol Prydain ar-lein.

Map Mynydd Prydain o Fannau Brycheiniog

Mae’r map topograffig graddfa 1:40,000 hwn yn cynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyd heblaw am y Mynydd Du yn y dwyrain a rhai ardaloedd ymylol. Ar y cefn mae ‘model tir digidol’ wedi’i liwio i ddangos prif ymraniadau’r cerrig yn yr ardal ac i gyd-fynd â hwn mae esboniad daearegol manwl. Ar gael o Harvey Maps, Cyngor Mynydda Prydain a siopau nwyddau awyr agored da. Cafodd ei gyhoeddi gyntaf yng ngwanwyn 2011.