Aberhonddu

Tref farchnad hanesyddol wedi ei lleoli lle mae’r afon Wysg a’r Honddu yn cyfarfod. Canolfan wybodaeth newydd – Croeso Aberhonddu – a agorwyd yn Lion Yard ym mis Mai 2018.

Cyfeirnod grid SO 047286 (canol y dref)

Canolfan i gerddwyr yn unig gydag amgueddfeydd, eglwys gadeiriol ac olion castell Normanaidd. Theatr wedi ei lleoli ar ochr orllewinol Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.  Mae tri Geolwybr yn cael eu datblygu a byddant yn archwilio ceunant Afon Honddu a gorlifdir Afon Wysg.

Daeareg

  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Llanfocha
  • Cwaternaidd; ceunant afon, gorlifdir, cerlannau afon a llifwaddod

Mapiau

  • OS Landranger 160, Explorer OL12
  • Daearegol — BGS 1:50,000 ‘Brecon’

Canllawiau

  • 3 Geolwybr: Afon Honddu, Afon Wysg, Pen-y-crug (*Diweddaraiad Geo-llwybrau: mae’r llwybrau hyn yn dal i gychwyn o’r tu allan i’r adeilad a oedd yn gartref i’r hen ganolfan gwybodaeth i dwristiaid, ond fel y soniwyd uchod, mae’r gwasanaeth hwnnw bellach ar gael o gyfeiriad newydd gerllaw.)

Cyfleusterau

  • Siopau, tafarndai, tai bwyta, Amgueddfa Brycheiniog (ar gau i’w hailwampio yn 2012 ond ar fin ailagor yn 2019 fel ‘y Gaer’) , Theatr Brycheiniog ac ati ,
  • Meysydd parcio niferus – talu ac arddangos yn bennaf.

Hygyrchedd

  • Yn hygyrch gan amlaf, ambell i fryn

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — mynediad da o’r A470 a’r A40
  • Ar y trên — gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni – ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaethau  X43, 63, 714 yn rhedeg i/o Aberhonddu
  • Ar feic — mae’r NCN 8 yn rhedeg drwy’r lle hwn

Atyniadau Geoparc eraill sydd gerllaw