Archaeoleg a threftadaeth ddiwydiannol

Saith mil o flynyddoedd o hanes dyn.

Daw’r dystiolaeth gyntaf am ddyn yn byw yn Fforest Fawr o Oes y Cerrig.  Dros y milenia dilynol roedd i ddod â newidiadau mawr i’r dirwedd – weithiau drwy weithio gyda natur, ac weithiau’n ymddangos yn brwydro yn ei herbyn hi.

Mae ucheldiroedd Fforest Fawr yn cadw cyfoeth o safleoedd o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn a ddaeth ar ei hôl. Mae’r olion sydd ar chwâl ar draws y bryniau yn adlewyrchu gwybodaeth fanwl glos dyn am y tir hwn a’i ddibyniaeth ar yr hyn y gallai gynnig iddo. Y cofebau cerrig brodorol sydd wedi goroesi orau dros y canrifoedd  er y gall mawn o bryd i’w gilydd gadw gwrthrychau mwy eiddil.

Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl yma fel pob man arall – mae rhai o’u ceyrydd i’w gweld o hyd er bod y ffyrdd a wnaed ganddynt wedi eu gadael yn angof i raddau helaeth. Mae yna wrth gwrs linyn Celtaidd pendant sy’n rhedeg drwy lawer o hanes yr ardal. Amlygir hyn gymaint yn yr enwau sy’n addurno’r Geoparc ag mewn unrhyw beth mwy sylweddol.

Roedd cyfnod y Normaniaid a’r Oesoedd Canol a oedd yn dilyn yn dystion i newid parhaus ond daeth y newidiadau mwyaf yn sgil datblygu diwydiant modern. Roedd De Cymru yn un o fannau geni’r Chwyldro Diwydiannol a oedd i gael ei allforio wedyn gan Brydain i weddill y byd. Dechreuodd chwareli, tramffyrdd, rheilffyrdd a ffatrïoedd amlhau ar draws y tir hwn.

Mae’r rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn wedi eu gadael wrth i hanes symud yn ei flaen ac mae’r dreftadaeth hon o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn rhoi i’r ymwelydd modern fewnwelediad eithriadol i’r gorffennol. Mae diddordeb Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr lawn gymaint yn rhyngweithio dyn gydag ef â’i agweddau hollol naturiol. Edrychwch ar y Llinell Amser i ganfod pwy wnaeth beth a phryd.

Cymerwch olwg ar y Geoparc drwy’r oesoedd – a byddwch yn gadael gyda gwerthfawrogiad dyfnach ohono.

Gwybodaeth bellach

Mae tair ymddiriedolaeth archaeolegol yn gyfrifol am rannau o Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr ac mae gwybodaeth ychwanegol ar archaeoleg y Geoparc ar eu gwefannau.

Adnodd defnyddiol iawn yw safle Coflein a ddarperir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Cewch wybodaeth yma ar bron bob safle hanesyddol yn y Geoparc ac yn wir yng ngweddill Cymru.