Yn 2026 byddyn unwaith eto’n dod â theithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau eraill i chi eu mwynhau yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr.
Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr sy’n cymryd lle ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn gyda theithiau cerdded, darlithoedd ac arddangosfeydd.
Lleol i Fyd-eang: Gwehyddu Lleoedd
Ar y cyd â Thwristiaeth Bannau Brycheiniog a Sefydliad Celf Josef Herman, cynhaliodd Geoparc Fforest Fawr gyfres o bedair taith gerdded yn ac o amgylch cymunedau yn rhan uchaf Cwm Tawe yn ddiweddar (Ebrill 2026). Y ffocws oedd dathlu cysylltiadau rhwng y cymunedau hynny a’u treftadaeth naturiol a diwylliannol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen fer hon yn llwyddiannus, fe wnaethom gyflogi Landed Futures i gynnal gweithdy cymunedol yn The Welfare, Ystradgynlais gan fynd â rhai o’r un themâu hynny ymlaen. Barnwyd hwn hefyd yn llwyddiant gan bawb a fynychodd – pobl leol ac arbenigwyr fel ei gilydd – un canlyniad oedd gwerthfawrogiad o faint o arbenigedd sydd yn y gymuned leol!
Arweiniodd Helen Lucocq a Jodie Bond o Landed Futures rywfaint o weithgaredd gwehyddu, a’r allbwn pendant oedd cyfres o luniau gwehyddu lle cafodd llawer o bynciau treftadaeth eu plethu – yn gorfforol ac yn drosiadol. Rydym yn gobeithio mynd â’r rhain ar daith fel rhan o raglen ehangach o ymgysylltu cymunedol â chymunedau o amgylch y Geoparc yn ystod gweddill 2026 a thu hwnt. Edrychwch yn ôl yma am fanylion unrhyw ddigwyddiadau wrth iddynt ddod i’r amlwg.
Fe wnaethom gymryd rhan yn y Diwrnod Geoamrywiaeth Rhyngwladol cyntaf un ar ddydd Iau 6 Hydref 2022. Mae’r fenter UNESCO hon yn dathlu’r ystod ryfeddol o nodweddion daearegol sy’n cael eu harddangos ar y Ddaear. Mae gennym ni ein cyfran deg yng Nghymru – un o’r lleoedd mwyaf geoamrywiol ar y blaned. Gwyliwch allan amdano eto yn 2026.
Efallai bydd gennych ddiddordeb yn:
- Mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae grwpiau megis Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru hefyd yn cynnal ystod o weithgareddau, a leolir yn aml o gwmpas eu gwarchodfeydd.
- Mae yna deithiau cerdded gyda thema ddaearegol wedi’u cynnwys yng Ngŵyl Gerdded Crucywel – er bod y rhan fwyaf o’r teithiau cerdded yn rhan ddwyreiniol y parc cenedlaethol, mae rhai teithiau o fewn y Geoparc. Mae yna hefyd weithiau ‘Autumn Walking Weekend’ byrrach sy’n cael ei redeg gan drefnwyr y Gŵyl Gerdded Crucywel.
- Ar ein stepen drws deheuol, cynhelir Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru bob blwyddyn ac mae’n rhannu rhai themâu cyffredin o ran daeareg, archeoleg a diwydiant.
- Hefyd mae grŵp de Cymru Cymdeithas y Daearegwyr yn cynnal cyfarfodydd yn y Geoparc yn achlysurol.
- Mae’r gymdeithas Gymraeg ar gyfer astudiaethau natur, Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru gan gynnwys nifer yng nghyffiniau’r Geoparc.
Sylwer bod y rhestr uchod yn cynnwys teithiau cerdded/digwyddiadau a gynhelir yn y Geoparc ond heb eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am waith y sefydliadau eraill hyn felly eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch cyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw un o’r rhain.



