Llinell amser Cwaternaidd

Cyfnod byr ond pwysig – os dim ond oherwydd mai dyma’r un rydym yn byw ynddo ar hyn o bryd!

Y Cyfnod Cwaternaidd

Mae’r cyfnod hwn wedi para 2.6 miliwn o flynyddoedd – hyd yn hyn!  Mae wedi’i rannu’n ddwr gyfres/dau gyfnod.

  • Y Cyfnod Holosen         0 – 11,700 o flynyddoedd yn ôl
  • Y Cyfnod Pleistosen    11,700 – 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Yn rhyfedd iawn, mae rhai daearegwyr wedi bod o’r farn yn flaenorol bod y Cyfnod Cwaternaidd wedi para o 1.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd byth, gwnaeth rhai ddiystyru’r cyfnod Cwaternaidd yn gyfan gwbl ac roeddent o’r farn mai dyna oedd rhan ddiweddaraf y cyfnod Neogenaidd a ddechreuodd 24 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Felly os gwelwch gyfeiriadau at y dyddiadau hyn mewn llyfrau, peidiwch â synnu!

Mae’r awgrym diweddaraf y dylid galw rhan ddiweddaraf y cyfnod Cwaternaidd yn gyfnod ‘Anthropocenaidd’ (mae’r gair Lladin ‘anthropos’ yn golygu ‘dyn’) yn fwy diddorol. Mae cefnogwyr y term newydd hwn yn dadlau gan mai’r ddynolryw yw’r prif rym ar gyfer newid ar draws y blaned erbyn hyn, ei fod yn iawn galw’r Cyfnod Athropocenaidd ar yr adeg bresennol (o ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y 18fed ganrif)!