C CH

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

C

c.p. / b.p. (before present)

Talfyriad a ddefnyddir gan ddaearegwyr sy’n golygu ‘cyn y presennol’. Er enghraifft, mae modd cyfeirio at rywbeth a ddigwyddodd 28,000 o flynyddoedd c.p. Y flwyddyn 1950 yw’r ‘presennol’ yn yr achos hwn.

Cainosöig / Caenozoic

Y gorgyfnod daearegol yn dilyn y Mesosöig a wawriodd ar ddechrau’r Cyfnod Palaeogen, 66 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Ystyr y term yw ‘bywyd diweddar’.

calchfaen / limestone

Unrhyw graig sy’n cynnwys yn bennaf naill ai calsiwm carbonad neu fagnesiwm carbonad (calchfaen dolomitig). Mae calchfeini yn amrywiol iawn eu natur.

calchfaen C1, C2, D1, D2, K, S1, S2 neu Z / C1, C2, D1, D2, K, S1, S2 or Z limestone

Gweler ‘bio-parthau Vaughan’

Calchfaen Carbonifferaidd / Carboniferous Limestone

Y gyfres o galchfeini a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd ac a oedd yn cynnwys nifer o ffurfiannau calchfaen gwahanol, pob un ohonynt o darddiad gwahanol.

Calchfaen Cilyrychen / Cil-yr-ychen Limestone

Ffurfiant trwchus o galchfaen a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd.

Calchfaen Crug / Crug Limestone

Ffurfiant calchfaen a ddyddodwyd yn ystod Epoc Caradog y Cyfnod Ordofigaidd.

Calchfaen Llandyfan / Llandyfan Limestone

Un o galchfeini’r prif Galchfaen Carbonifferaidd.

Calchfaen Psammosteus / Psammosteus Limestone

Calchfaen tenau a thrawiadol rhwng Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan a Ffurfiant St Maughan. Fe’i gelwir yn ddiweddarach yn Galchfaen Bishop’s Frome ond a elwir bellach yn Galchfaen Chapel Point.

Cambriaidd / Cambrian

Cyfnod daearegol a barhaodd am 54 miliwn o flynydoedd rhwng 539 a 485 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Carbonifferaidd / Carboniferous

Cyfnod daearegol a barhaodd am 60 miliwn o flynyddoedd rhwng 359 a 299 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

carreg bwdr / rottenstone

Calchfaen hindreuliedig a gâi ei gloddio yn y gorffennol a’i ddefnyddio fel sgraffinydd. Wrth i brosesau naturiol waredu’r calsiwm carbonad yn y calchfaen, gadawyd ar ôl ddeunydd silicaidd nid annhebyg i bwmis. Roedd y dyddodion helaethaf, a gâi eu cloddio yn ystod y 19g, i’r gogledd-orllewin o’r Cribarth.

carreg laid / mudstone

Craig waddod fân-ronynnog iawn. Weithiau defnyddir y term ‘siâl’ yn lle ‘carreg laid’ ond mewn gwirionedd mae ‘siâl’ yn cyfeirio at garreg laid dra haenog sy’n hollti’n rhwydd ar hyd planau gwelyo.

(Ffurfiant) Carreg Laid Bishopston / Bishopston Mudstone (Formation)

Dilyniant trwchus o gerrig llaid rhwng Tywodfaen Twrch isod (Grut Gwaelodol) a Chraig orchuddiol Farewell. Galwyd yn ‘Sialau Canol’ yn flaenorol. Mae’r enw modern yn deillio o’r ardal yn y Gŵyr.

carreg silica / silica rock

Ffurfiant pur iawn o raeanfaen h.y. dros 97% o silica (= SiO2) a arferai gael ei gloddio a’i chwarela i’w ddefnyddio, ar ôl ei lifanu, i wneud brics gwrthsafol. Y ‘garreg silica’ mewn gwirionedd yw’r Grut Gwaelodol (a elwir bellach yn ‘Ffurfiant Tywodfaen Twrch’) sy’n rhan o’r gyfres Grut Melinfaen (gelwir yn ‘Grŵp Marros’ bellach) a osodwyd yn wreiddiol yn y Cyfnod Carbonifferaidd.

carst / karst

Tirwedd yn cynnwys nifer o dirffurfiau sy’n nodweddiadol o galchfaen, megis calchbalmentydd, dolinau (llyncdyllau), ogofâu a tharddellau. Enwyd y math yma o dirwedd ar ôl y deipardal yn yr hen Iwgoslafia.

cefnen eirdreulio / protalus (or pronival) rampart

Crynhoad o gerrig amrywiol eu maint a mân ddyddodion wrth droed clwt neu faes eira lled-barhaol. Unwaith y mae’r eira yn dadmer mae’r dyddodion yn ffurfio cefnen garegog.

clog-gai / boulder clay (till)

Cymysgedd annidoledig o glai a cherrig amrywiol eu maint a gaiff ei waddodi pan fo rhewlif yn dadmer. Fe’i hadwaenir hefyd fel til.

craig waddod / sedimentary rock

Unrhyw graig a ffurfiwyd wrth i waddodion gael eu dyddodi, fesul gronyn, naill ai dan ddŵr neu ar dir sych. Mae creigiau gwaddod yn cynnwys cerrig llaid, cerrig silt, tywodfeini, amryfeini, calchfeini a glo. Yn ogystal â chreigiau gwaddod, ceir dau fath arall o greigiau sylfaenol, sef creigiau igneaidd a chreigiau metamorffig.

Cretasig / Cretaceous

Cyfnod daearegol a barhaodd am 79 miliwn o flynyddoedd rhwng 145 a 66 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cwaternaidd / Quaternary

Y cyfnod daearegol presennol sydd, wedi parhau am 2.6 o filiynau o flynyddoedd. Gweler siart amser Cwaternaidd.

Cyfandir yr Hen Dywodfaen Coch / Old Red Sandstone Continent

Enw arall ar y cyfandir hwn yw Lawrwsia neu Ewromerica, sef un o gyfandiroedd y cyfnodau Defonaidd a Silwraidd sy’n cynnwys y rhan fwyaf o Ogledd America, yr Ynys Las a gogledd Ewrop yr oes bresennol. Mae enw’r cyfandir yn cyfeirio at welyau cochion trawiadol tywodfeini’r diffeithdiroedd poeth.

cyfnod / period

Rhaniad pwysig o amser daearegol. Mae’r term ‘system’ yn cyfeirio at y creigiau a ffurfiwyd yn ystod cyfnod daearegol. Gweler graddfa amser ddaearegol.

cyfres / series

Y creigiau a ffurfiwyd yn ystod y rhaniad hwnnw o amser daearegol a adwaenir fel epoc. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cyfres Arennig / Arenig Series

Un o unedau stratigraffig (sy’n cyfateb i epoc) y Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.

Cyfres Ashgill / Ashgill Series

Epoc diweddaraf y Cyfnod Ordofigaidd. Gweler siart amser Ordofigaidd.

Cyfres Brycheiniog / Brecon Series

Enw uned stratigraffig leol y Cyfnod Defonaidd Isaf pan gafodd Ffurfiannau Senni a’r Cerrig Cochion eu dyddodi. Gweler siart amser Defonaidd.

Cyfres Caradog / Caradoc Series

Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.

Cyfres Ditton / Ditton Series

Enw lleol un o unedau stratigraffig y Defonaidd Isaf. Dyddodwyd creigiau Ffurfiant Llanfocha yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.

Cyfres Downton / Downton Series

Uned stratigraffig gynharaf y Cyfnod Defonaidd. Gweler siart amser Defonaidd.

Cyfres Farlow / Farlow Series

Enw un o unedau stratigraffig lleol y Defonaidd Uchaf. Dyddodwyd Haenau’r Llwyfandir yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.

Cyfres Gweunllwg / Wenlock Series

Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd Isaf. Gweler siart amser Silwraidd.

Cyfres Llandeilo / Llandeilo Series

Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cyfres Llan-fyrn / Llanvirn Series

Un o epocau’r Cyfnod Ordofigaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cyfres Llanymddyfri / Llandovery Series

Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd sy’n cynnwys yr unedau stratigraffig Rhuddanaidd, Aeronaidd a Thelychaidd.

Cyfres Llwydlo / Ludlow Series

Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd pan gafodd tywodfeini, cerrig llaid a cherrig silt Ffurfiant Cae’r Mynach, Ffurfiant Hafod Mawr, Ffurfiant Cwm Graig Ddu a ffurfiannau eraill eu dyddodi. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cyfres y Calchfaen Carbonifferaidd / Carboniferous Limestone Series

Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd pan gafodd y prif galchfeini eu dyddodi. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cyfres y Grut Melinfaen / Millstone Grit Series

Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.

cylchfa fawtio-plygu / disturbance

Y term a ddefnyddir yn ne Cymru i ddisgrifio nifer o gylchfâu llinellol, fel cylchfâu ffawtio-plygu Cwm Nedd, y Cribarth a Charreg Cennen, a nodweddir gan ffawtiau a phlygion.

Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen / Carreg Cennen Disturbance

Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o Fae Caerfyrddin i ardal Pontsenni. I’r gogledd-ddwyrain o Bontsenni mae’n parhau ar ffurf Cylchfa Ffawtio Church Stretton.

Cylchfa Ffawtio Church Stretton / Church Stretton Fault Zone

Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o Church Stretton i ardal Pontsenni. I’r de-orllewin o Bontsenni mae’n parhau ar ffurf Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen.

Cylchfa Ffawtio-plygu’r Cribarth / Cribarth Disturbance

Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o ardal Aber-craf, trwy’r Cribarth ac ymlaen tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Aberhonddu dan yr enw Ffawt y Cribarth.

Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd / Neath Disturbance

Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion y gellir ei holrhain o Fae Abertawe hyd Henffordd. Mae effeithiau’r gylchfa ffawtio-plygu hon, sy’n gyfrifol am Gwm Nedd, i’w gweld yng nghyffiniau Craig y Dinas.

Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe / Tawe Valley Disturbance

Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion sy’n ymestyn o Abertawe cyn belled ag ardal Aber-craf, lle y mae’n troi’n Gylchfa Ffawtio-plygu’r Cribarth.

Cyn-gambriaidd / Precambrian

Yr amser daearegol hir hwnnw cyn y Cyfnod Cambriaidd, a wawriodd 539 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Credir y daeth y Ddaear i fodolaeth bron 4,540 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac felly mae’r Cyn-Gambriaidd yn cynrychioli bron 90% o hanes daearegol y byd.

Cystradau Glo / Coal Measures

Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.

Cystradau Glo Canol / Middle Coal Measures

Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cystradau Glo Isaf / Lower Coal Measures

Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cystradau Glo Uchaf / Upper Coal Measures

Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Cystradau Pennant / Pennant Measures

Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.

CH

Dim termau.