Addysg ac ymchwil

Dysgu yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr

Mae’r Geoparc yn ystafell ddosbarth awyr agored drawiadol.  Mae ganddo rywbeth i’w gynnig i fyfyrwyr o unrhyw oedran — cyn-ysgol, ysgol, coleg neu’r tu hwnt.  Rydym yn bwriadu datblygu’r tudalennau hyn wrth i amser fynd heibio er mwyn eich helpu i gael y gorau o’r Fforest Fawr, beth bynnag yw lefel eich diddordeb ac arbenigedd.

Mae gwasanaeth addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n agos gydag ysgolion. Edrychwch ar yr adnoddau ar gyfer addysgwyr sydd ar gael.

Mae’n bosibl y byddwch yn gweld y dolenni isod yn ddefnyddiol:

Prosiectau ymchwil cyfredol

Mae’r prosiectau ymchwil canlynol yn digwydd ar hyn o bryd yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr.

  • Synhwyro dynameg mawndir o bell rhwng 1945 a 2010 ar gors yr ucheldir yn Waun Fignen Felen
  • Prosiect creiddio yng Nghraig-y-fro
  • Hanes tectonig o gylchfeydd ffawtio-plygu Castell-nedd a Chwm Tawe

Yn y lle cyntaf dylech chi gysylltu ag Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc, i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r prosiectau hyn.

Edrychwch yma i weld crynodebau o bapurau a gyflwynwyd yn y Seminar Ymchwil 2011 ar Geoparc y Fforest Fawr diweddar a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Cynhadledd Cymdeithas Daearegwyr: taith maes, Hydref 2017

Roeddem yn falch o gynnal ymweliad maes fel rhan o gynhadledd flynyddol Cymdeithas y Daearegwyr agynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2017. Mwy am y lleoliad daith yma.